
O GWMPAS WAUNDEW - Llyr Hughes
Griffiths / R. Alun Charles
Mae'r tudalen yn trafod gwahanol agweddau ar
bêl-droed sy'n digwydd bod yn y newyddion ar y pryd, gan ystyried perthnasedd
hyn i sefyllfa Clwb Pêl-droed Caerfyrddin.
|
NEIL ROSSER 07/04/01 UN ALAN WADDLE …. DOES DIM OND UN ALAN WADDLE! Y FLWYDDYN OEDD 1979, y lleoliad oedd cae pêl-droed
y Vetch. Roedd yn Nos Wener, 11 Mai,
ac roedd Abertawe newydd guro Chesterfield I sicrhau 60 pwynt am y tymor –
digon o bwyntiau I sicrhau dyrchafiad I’r hen ail adran ac roeddwn i ar y
North Bank, noson fydd yn aros ‘da fi am byth. Roedd y gêm wedi cwpla ers rhyw hanner awr ond roedd y
Banc dal yno ac yn gwrthod symud nes I Tosh a Curtis a Waddle ddod allan I
ddathlu ‘da ni. Johnny Toshack’s
Jack and White Army’ a One Alan Waddle oedd y chants ac o’r diwedd
fe ddaethon nhw mas ac fe aethon ni’n wyllt, wel yn fwy gwyllt! Wedyn bant â ni i gerdded drwy Abertawe a
rhoi ofn I unrhyw fownser ar y Kingsway oedd yn teimlo’n ddigon hyderus I
syllu’n rhy hir ar fyddin y Banc. Byddin
digon garw oedd yn ymgynnull ar y Banc y dyddiau hynny, ‘rabl y dre’ oedd
‘nhad yn ei galw nhw ac, i ddweud y gwir, doedd e byth yn rhy hapus ‘mod I’n
hala’n Sadyrnau yno. Roedd Cymry Cwm
Tawe yn fwy tebygol o fynd I weld Castell Nedd neu Abertawe’n whare rygbi,
tîm y Townies oedd y Swa ns ac roedd y Banc yn llawn acenion stadau Cyngor
Townhill, Blaenymaes, Penlan a Bonymaen. Roedd Tosh yn arwr ac yn Frenin I grwp o bobl nad oeddent
yn rhan o chwedlau rygbi Max Boyce.
Roedd llwydiant timau rygbi Cymru’r saithdegau mor berthnasol I
gefnogwyr y Swans ậ llwyddiannau diweddar Alex Ferguson I drigolion
Moss side. Ond nawr roedd y cynnwrf
am glwb bach di-nod yn y Gorllewein yn real ac roedden ni ar drothwy
llwyddiant annisgwyl ac anhygoel. Roedd tacteg Tosh yn un syml, cyfuno profiad a dawn hen
stagers Lerpwl gyda dawn chwaraewyr Cymreig roedd ganddo yn y garfan yn
barod. Tm y noson honno oedd : 1.
Geoff Crudgington 2. Wyndham Evans 3. Danny Bartley 4. Leighton Phillips 5.
Nigel Stevenson 6. John Toshack 7. Brian Attley 8. Robbie James 9, Alan
Waddle 11. Ian Callaghan. Roedd
dylanwad Lerpwl yno’n barod gyda doniau’r asgellwr Ian Callaghan wedi rhoi
sawl peniad I Tosh yn y tymor hwnnw ac roedd yna fwy I ddod – Tommy (mor
galed ag algerbra) Smith, Phil Boersma, Bob (gorrmod o ginio) Latchford a Dai
(gallu siarad Cymraeg) Davies. Y ffaith oedd yn fwy pwysig I mi, fodd bynnag, am yr adeg
honno yn hanes y Swans oedd dim sawl hen chwaraewr o Lerpwl oedd wedi rhoi cymorth
I ni ac wedi rhedeg lan tabs mwyaf anhygoel yn wine bars y Mwmbwls ond yn
hytrach fod Alan Curtis, Robbie James a Wyndham Evans wedi llwyddo I gadw eu
llefydd yn y tÎm cyntaf yn yr adrannau uwch. MAE’R SEFYLLFA’N WAHANOL IAWN NAWR, wrth gwrs, ac erbyn y
bydd y darn hwn yn cael ei argraffu bydd y Swans ‘nol yng ngwaelod y
gasgen. Does dim clincen wedi cael ei
wario ar chwaraewyr newydd a thra bod pawb yn cydnabod doniau John Hollins
fel hyfforddwr, dyw e ddim yn perthyn I Paul Daniels a byddwn ni’n mynd i
lawr. Fyddwn ni byth eto’n gweld clybiau megis Abertawe, Watford a Wimbledon
yn cystadlu ar y lefel uchaf – y geiniog yw diwedd y gân a’r geiniog nawr
fydd diwedd y gêm, Diolch yn fawr y tro hwn I’r athro a’r trwbadwr Neil
Rosser. Mae Neil yn byw yn Abergwili,
yn athro yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, Hirwaun,
ac yn drwbadwr adnabyddus yn y Gymru gyfoes. ________________________________________________________________________________________ LLYR HUGHES GRIFFITHS 23/03/01 Rai misoedd yn ôl mi ysgrifennais yn y golofn hon mai’r
ddwy gêm yn erbyn Gwlad Pwyl fyddai’n cael y dylanwad mwyaf ar obeithion
Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn y Dwyrain Pell yn 2002. Y rhesymeg y tu ôl i hynny oedd fy mod yn disgwyl i Gymru
golli yn erbyn Norwy a’r Iwcrain a churo Belarws ac Armenia. A gan gymryd yn
ganiataol y byddai pawb ond Cymru’n colli pwyntiau yn annisgwyl rhywle ar hyd
y daith - Pwyl a ni fyddai’n brwydro am yr ail safle yn y grwp! Rwy’n gwneud yr un camgymeriad bob dwy flynedd. Bob tro mae
rowndiau rhagbrofol Ewrop neu Gwpan y Byd yn dechrau mae fy mhelen grisial yn
llwyddo i ddarogan ffawd Cymru’n berffaith glir. Yna, weithiau ar ôl dim ond
awr a hanner o bêl-droed, mae’r sefyllfa’n cymhlethu, ac mae’r belen grisial
yn cymylu’n llwyr. Na, doedd colli ym Melarws yn sicr ddim yn rhan o’r
sgript. Roedd y wasg yn darogan diwedd ar obeithion Cymru ar ôl dim ond un
gêm a minnau’n tueddu i gytuno. Yna, mi gofiais bod Cymru wedi colli 5-1 oddi
cartref yn erbyn Rwmania yng ngêm gyntaf yr ymgyrch enwog honno a ddaeth i
ben gyda chic gosb Paul Bodin yn 1993. Felly does dim angen anobeithio eto. Ac ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Norwy (oedd yn ganlyniad da
ar bapur) a phwynt ym Mhwyl (a oedd yn ganlyniad da ar unrhyw gyfrif) mae’r
darogan nawr yn symud at Armenia a’r “roller-coaster” pêl-droed rhyngwladol
yn mynd yn ei flaen. Mae’r farn gyffredin yn unfrydol. Dim ond buddugoliaeth
fydd yn gwneud y tro yn Yerevan. Ennill ac mi fydd fy theori am dynged Cymru
nôl ar waith. Colli, ac mi fydd yn rhaid i mi (â’r tîm hyfforddi) edrych o’r
newydd ar ddyfodol ein tîm pêl-droed cenedlaethol. Dyw’r paratoadau ddim wedi mynd o’n plaid. Dim Giggs, dim
Savage, dim Blake a dim Coleman. Taith awyren naw awr (a dwy awr o oedi) heb
son am y maes ymarfer yn cael ei gymharu â chae bresych. Deall wedyn bod
Armenia wedi curo Norwy ar eu tomen eu hunain ac wedi bod 2-0 ar y blaen yn
erbyn yr Iwcrean cyn colli 3-2. Ac yn sydyn mae’r dasg yn aruthrol a minnau’n
dechrau gwneud esgusodion yn barod. Mae angen o leiaf pedwar pwynt ar Gymru o’r ddwy gêm nesaf
medd y wasg. Mae colli oddi cartref i ddau o’r gwleydd “llai” yn anfaddeuol.
Hwn yw’r cyfle olaf … tan y cyfle olaf nesaf yn erbyn yr Iwcraen wrth gwrs! Beth bynnag ddywed y papurau, mae fy mhelen grisial yn dal
i fod yn weddol glir ar hyn o bryd. Ennill yn erbyn Armenia a cholli yn erbyn
yr Iwcraen ac mi fydda i’n ddigon hapus! _________________________________________________________________________________________ Y DDAU
LYFR BACH COCH 6/3/01 Mae gen i ddau lyfr bach coch yn y ffeil Pêl-droed Ysgolion Caerfyrddin yn y
tþ, ac fe ges i dipyn o sioc yr
wythnos ddiwethaf pan sylweddolais fy mod i wedi bod wrthi’n llenwi’r llyfrau
hyn ers 20 mlynedd! Mae’n arferiad gen
i gofnodi enwau pob aelod o’r tîm a fu’n chwarae ym mhob gêm i Gymdeithas
Pêl-droed Ysgolion Caerfyrddin. Yna,
rhoi marc i bob chwaraewr allan o ddeg ynghyd â nodi’r sgôr terfynol a’r
sgorwyr. Mae hyn i gyd yn f’atgoffa
fy mod i wrthi’n trefnu ac yn cynnal pêl-droed Ysgolion Caerfyrddin ers 1980. Manylion am y gêm rhwng Ieuenctid Caerfyrddin (9 gôl) a
Bonymaen (1 gôl) yng Nghwpan Ieuenctod Gorllewin Cymru sy’n llenwi’r dudalen
gyntaf, ac ymhlith yr enwau mae Robert Brooks, Andrew ‘Davey’ Davies, Simon
Rogers a Huw Robers, un o’n his-lywyddion presennol. Ond, o 1981 ymlaen, tîm Ysgolion Caerfyrddin (oed cynradd)
fu fy ngofal hyd heddiw. Yn yr
wythdegau cynnar roedd Peter Mitchel o Langynnwr, Giles a Jason Thomas yn
chwarae i dîm yr ysgolion. Chwaraewyr
y flwyddyn am 1982 oedd Michael Davies, Heol Henfwlch, mab Roy Davies,
is-lywydd arall y clwb, a Chris Jones o Ysgol y Model. Ymhlith eraill a enillodd dlysau fel
chwaraewyr y flwyddyn oedd Ian Jones o Langyndeyrn, a enillodd ei gap dan 18
i Gymru maes o law, Barrie Carnegie, Justin Thomas, Darren Heath a Rhys James
o Glynderi. Roedd Rhys gydag un o’r
chwaraewyr disgleiriaf o’i oed a welais erioed. Mewn gêmau pump bob ochr roedd Owain Thomas, Heol Mostyn a
Hywel Thomas, Llwynpïod, Peniel, yn arbennig iawn ac fe enillodd y ddau gêmau
i ni ar eu pennau eu hunain bron. Yn nhymor 1986-87,
Rhodri, crwt Jeff ac Eirlys, oedd yn cael 9 marc allan o 10 ymhob gêm,
ac fe enillodd yntau gapiau dros Gymru hefyd. Yn yr un tîm roedd ei gefnder Steffan Phillips, crwt Keith ac
Eira, Gwion Bowen o Beniel a Steven, mab Nigel a Wendy Davies. Y flwyddyn
ganlynol roedd Matthew Stevens, Gareth James a Steven Jones, y chwaearwr
rygbi rhyngwladol, yn sgorio’n uchel allan o ddeg. Fe allwn i fynd ymlaen ac ymlaen am gynnwys y ddau lyfr
bach coch. Rwy’n cael pleser
diddiwedd wrth edrych ar y cannoedd o enwau sydd ynddo, ac yn cael boddhad
mawr hefyd wrth feddwl fy mod i wedi bod yn rhan o ddatblygiad y bechgyn hyn
ym myd chwaraeon. Bellach, ers yr ad-drefnu, i dîm Ysgolion Sir Gaerfyrddin
mae’r bechgyn yn chwarae ac mae Ashley Williams, Dafydd Davies, Luke Parcell,
Elliot Thomas ac Angelo Dragonie o ysgolion y dre yn aelodau o’r tîm
presennol. Mae 20 mlynedd yn amser hir i drefnu, teithio, ymarfer,
dewis timau ac yn y blaen, a’r cyfan yn llafur cariad llwyr. Ar ddiwedd y tymor hwn rwyf am roi’r gorau
iddi yn y gobaith y bydd rhywun arall yn cymryd at y cyfrifoldeb o ddechrau
datblygu sêr y dyfodol yng Nghaerfyrddin.
PETER HUGHES GRIFFITHS _________________________________________________________________________________________ GYDA TREFOR HUW JONES 2/3/01 TEULU’R CILIE o ardal Llangrannog oedd un o deuluoedd
mwyaf anghyffredin Cymru. Darllen
llyfr Jon Meirion Jones, sy’n cofnodi hanes y teulu, fu’r sbardun i ailagor Cerddi Pentalar, sef cyfrol o gerddi
‘y cyw melyn olaf’, Alun. Oedais ar
ôl darllen yr englyn yma : Y Bêl Droed Ar faes teg, eilun torf a’i stðr - a’i chael â chic, er pob taclwr I’r gôl heibio i’r gwyliwr, Yw penna’ camp ieuanc ðr. Gwelais nifer o gêmau yn ystod yr wyth tymor diwethaf yn y
Gynghrair Genedlaethol. Brith gof
sydd gennyf erbyn hyn am lawer ohonynt.
Er hynny, mae dawn gynhenid rhai o’r chwaraewyr a lwyddodd i rwydo
goliau’n gyson yn fyw iawn o hyd. Bu Dave Taylor yn arwr i gefnogwyr Porthmadog. Maes llafur Taylor oedd y cwrt cosbi ac yn
arbennig y cwrt chwech wrth iddo fanteisio ar bas dreiddgar nei groesiad
cywir. Profodd Marc Lloyd-Williams, un o gyn-chwaraewyr Taylor ar
y Traeth, lwyddiant hefyd yn ddiweddarach gyda Bangor. Bu Frank Mottram yn bartner i Marc ar
Ffordd Farrar. Cafodd gynhaeaf o
goliau ac enillodd Bangor y bencampwriaeth. Dywedir bod y rhod yn troi ac
mae’r selogion yn dyheu am gyfnod tebyg eto. Ar lwyfan yr Oval, cartref Caernarfon, rhyfeddais at allu
Eifion Williams. Er nad yw sgorwyr
greddfol yn amlwg trwy gydol y gêm, pan ddaw’r cyfle byddant yn y man a’r
lle. Aeth Williams i’r Barri a
rhwydodd yn rheolaidd i dîm Parc Jenner cyn symud i Torquay. Blaenwr a hawliodd y penawdau yn gyson yw Kevin
Morrison. Aberystwyth, y Drenewydd a
Phorthmadog yw tri o’r clybiau sydd wedi elwa oherwydd ei ddawn i sgorio
goliau. Heb os nac onibai, Morrison
yw un o’r ymosodwyr gorau a welais yn penio pêl. Tony Bird (Y Barri), Mattie Davies (Cwmbran) a Chris Summers
(Inter / Cwmbran a Chaerfyrddin erbyn hyn) yw tri chwaraewr arall a wnaeth
argraff yn ystod y tymhorau. WEDI CAEL CIP YN ÔL, mae’n bwysig hefyd ein bod yn edrych
ymlaen. Datblygodd y Gynghrair
Genedlaethol yn aruthrol ers 1992 a gobeithio y gwelwn ffyniant eto yn y
dyfodol o ganlyniad i ddoniau chwaraewyr ac ymroddiad swyddogion y clybiau. TREVOR
HUW JONES GYDA DYLAN
GRIFFITHS BBC Radio Cymru GO BRIN bod dinas
Caerdydd a Stadiwm y Mileniwm wedi cael cymaint o sylw dros yr wythnosau
diwethaf gyda'r cyhoeddiad bod rownd derfynol cwpan yr FA yn ogystal â'r
cwpan Worthington, y gemau ail gyfle a'r darian elusennol i'w chwarae yno; ar
yr wyneb mae hyn yn rheswm i ddathlu.
________________________________________________________________________________________ GYDA GARETH BLAINEY
BBC CYMRU MAE
HI'N DDRWG GEN I os ydych chi wedi cael llond bol o gwisiau Nadolig heb sôn
am lond bol o dwrci erbyn hyn, ond 'rwy' am ddechrau gyda chwestiwn. Beth
sy'n gyffredin rhwng Y Barri, Cwmbran, Caerfyrddin, T.N.S., Llanelli, Bangor
ac Aberystwyth y llynedd a Chwmbran, Y Barri, Y Drenewydd, Caerfyrddin,
Aberystwyth a T.N.S. eleni? Yr ateb yw mai'r saith tim 'rwy' wedi'u henwi
gyntaf oedd â'r gobaith gorau o ennill Pencampwriaeth Cynghrair Cymru yr adeg
yma y tymor diwethaf a'r chwe thîm sydd wedi'u henwi wedyn sydd â'r gobaith
gorau o wneud hynny fel mae pethau y tymor hwn. Mae'r
ffaith bod cymaint o dimau mor agos at ei gilydd o ran pwyntiau mor agos at
frig y tabl ar hyn o bryd yn sefyllfa iach o'i chymharu â honno yn Y
Gynghrair ychydig dymhorau yn ôl. Bryd hynny y cwestiwn oedd nid pa dîm
wnaiff ennill Y Bencampwriaeth, ond pryd wnaiff Y Barri ennill Y
Bencampwriaeth. Felly ai'r tim o Barc Jenner sydd wedi gwaethygu neu dimau
eraill sydd wedi gwella? 'Ie'
ac 'ie' yw f’'atebion i i'r cwestiynau yna. Er bod gan Y Barri record
ardderchog yn ddiweddar, 'dwy' i ddim yn credu bod tîm Peter Nicholas gystal
â thîm Gary Barnett; ac 'rwy'n eithaf sicr bod mwy o dimau da y tymor hwn nag
oedd rai blynyddoedd yn ôl a finnau wedi gwylio gêmau yn Y Gynghrair yn
rhinwedd fy swydd ymhob tymor ers ei sefydlu. Rhan
o'r rheswm am y gwelliant hwnnw yw bod mwyfwy o chwaraewyr yn gadael clybiau
yng Nghynghrair Nationwide ac yn ymuno â chlybiau yng Nghynghrair Cymru. Dyna
wnaeth y cefnwr Deryn Brace ddeufis yn ôl ar ôl chwarae bron i naw deg o
gêmau Cynghrair i Wrecsam. 'Roedd Brace yn gwybod y byddai'n teimlo'n
gartrefol yng Nghaerfyrddin yng nghwmni cyn-chwaraewyr proffesiynol eraill
fel Ryan Nicholls gynt o Leeds a Chaerdydd, a David Barnhouse gynt o
Abertawe, ond mae chwaraewyr eraill y clwb wedi gwneud argraff arno fo: ‘Yng
Nghaerfyrddin mae'r chwaraewyr sy' ddim wedi bod gyda chlybiau yng
Nghynghrair Nationwide eisiau gwneud yn siðr eu bod nhw'n cael pob chwarae
teg. Maen nhw'n gweithio ychydig yn galetach oherwydd hynny, ond 'does dim
rhaid i rai ohonyn nhw wneud hynny - maen nhw'n ddigon da beth bynnag.’ AC
OS YDYCH CHI GEFNOGWYR CAERFYRDDIN yn poeni nad yw'r tîm yn 'ddigon da' ar ôl
colli yn Y Barri ac yn erbyn Hwlffordd, dyma air o gysur ichi. Yr adeg yma y
tymor diwetha, 'roedd y pencampwyr T.N.S. yn bedwerydd - safle Caerfyrddin ar
hyn o bryd. Gobeithio y bydd gêm heddiw gystal â'r un welais i rhwng
Caerfyrddin a T.N.S. fis diwethaf : mwynhewch, a Blwyddyn Newydd Dda. GARETH BLAINEY _____________________________________________________________________________ CPD CAERFYRDDIN YN
SENEDD EWROP! ER FY MOD i’n gweithio
fel trefnydd i ddau o Aelodau Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, dim ond
unwaith y flwyddyn y byddaf i’n cael y cyfle i ymweld â Brwsel ar gyfer
cyfarfodydd staff. Fe ddaeth y cyfle hwnnw ychydig wythnosau yn ôl a thra
oeddwn i yno mi gefais y cyfle i fynychu cyfarfod arbennig rhwng Aelodau
Seneddol Ewropeaidd a UEFA i drafod newid y system o drosglwyddo chwaraewyr. Trefnwyd y cyfarfod er
mwyn rhoi cyfle i gefnogwyr a swyddogion clybiau gael datgan eu gofidiau am
newid y system bresennol. Ac er mai o Ogledd Lloegr y deuai y rhan fwyaf o
gynrychiolwyr mi wnes i’n siðr bod Clwb Pêl-droed Caerfyrddin yn cael lle
teilwng yn siambr y Senedd Ewropeaidd! Ymhlith y rhai oedd yn
bresennol oedd Tony Kershaw (Llywydd Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau
Cefnogwyr Pêl-Droed), Alan Hardy (Prif Weithredwr Oldham AFC) a Peter Hallett
(Crewe Alexandra) a chynrychiolwyr o bron i ugain o glybiau yn cynnwys
Manchester United, Celtic, Lerpwl, Blackburn Rovers, Barnsley a llawer mwy -
yn cynnwys CPD Caerfyrddin wrth gwrs! Yn derbyn cwestiynau oedd Thomas
Tindemanns o UEFA a Jamie Andreu – pennaeth chwaraeon y Comisiwn Ewropeaidd. Dywedodd Thomas
Tindemanns bod ymchwil a gomisiynwyd gan UEFA wedi dangos bod y system
drosglwyddo bresenol yn fodd i ail-ddosbarthu cyfoeth oddi mewn i’r gêm sydd
wrth gwrs yn fanteisiol i’r clybiau llai. Yr un sicrwydd oedd ei angen ar
UEFA o safbwynt unrhyw system newydd oedd sefydlogrwydd. Mae cael cytundebau
ystyrlon yn hanfodol ac awgrymwyd y gellid cyfyngu pob chwaraewr yn Ewrop i
un trosglwyddiad rhyngwladol y tymor. Yn ôl Prif-Weithredwr
clwb Oldham byddai cyfyngu ar allu clybiau bach i fynnu prisiau hael am eu
chwaraewyr ifanc talentog yn tanseilio eu dyfodol yn llwyr. Dywedodd fod
incwm trosglwyddo ei glwb ef wedi talu am 98% o golledion y clwb dros y pum
mlynedd diwethaf. Heb hynny byddai Oldham wedi hen fynd i’r wal. Yn ystod y trafodaethau
fe ddaeth hi’n amlwg fod y diffiniad o drosglwyddiadau rhyngwladol yn
annelwig iawn, ac mi achubais i ar y cyfle i ofyn cwestiwn ar ran clybiau
Cymru. Beth yw diffiniad UEFA a’r Comisiwn Ewropeaidd o drosglwyddiad
rhyngwladol? Ai trosglwyddiad o un aelod-wladwriaeth Ewropeaidd i un arall
e.e. o Brydain i’r Almaen, neu o un Gymdeithas Bêl-Droed ryngwladol i un
arall e.e. o Gymru i Loegr? Gellir dychmygu’r
anfantais i glybiau Cymru petai cyfyngiadau arnynt o safbwynt prynu
chwaraewyr o Loegr, ac hefyd y golled ariannol o fethu mynnu pris teilwng
wrth werthu chwaraewyr ifanc o Gymru i glybiau yn Lloegr, yr Alban, Iwerddon
etc. Cyfaddefodd y Comisiwn
nad oeddynt wedi ystyried hyn a chytunwyd y byddai’n rhaid edrych ar
oblygiadau hynny’n fanwl. MAE’R DDADL ynglþn â
newid y system o drosglwyddo’n parhau felly, a gyda’r dadlau yr wythnos hon
am ohirio’r cyfarfod rhwng cynrychiolwyr FIFA, UEFA a’r Comisiwn Ewropeaidd
mae’n amlwg fod tipyn o ffordd i fynd eto cyn dod i gytundeb ar yr holl
fater. Llyr Hughes
Griffiths _______________________________________________________________________________________ GÊM GWPAN GOFIADWY
25/11/00 Cefais y fraint ddydd
Sadwrn diwethaf o gael gohebu i’r BBC o Gae Baker, Penrhyncoch ar y gêm rhwng
y bechgyn lleol a’r Barri yn nrhydedd rownd Cwpan Cymru. Bu bron i mi fod yn
dyst i un o’r canlyniadau mwyaf rhyfeddol o’r tymor. Y mae yna ryw hud
arbennig mewn gêmau gwpan sy’n ein cyffroi gymaint, ac yn taflu aton ni’r
annisgwyl mor aml. Doedd neb, heblaw am
gefnogwyr mwyaf pybyr y Penrhyn, wedi rhoi unrhyw obaith o gwbl iddynt, ond
wnaethon nhw ddim siomi eu cefnogwyr ar y diwrnod mwyaf yn eu hanes. Wrth
gyrraedd y cae, ac wrth i’r glaw ei thywallt i lawr, roedd rhywun yn cael y
teimlad y byddai’r elfennau o fantais i’r tîm o Gynghrair Spar y Canolbarth,
ond eto roedd yna ran ohonof yn ofni’r gwaethaf i’r tîm cartref. Onid oedd Y
Barri ar rediad campus yn ddiweddar , heb golli mewn pum gêm, ac wedi curo
Penrhyn o 5-0 y llynedd ar Barc Jenner yn yr un gystadleuaeth? A does dim
disgwyl i bentref bychan o Geredigion guro bechgyn mawr y Gynghrair
Genedlaethol, o’s e? Pan sgoriodd Martin
Williams i Penrhyn ar ôl 20 munud, roedd hud y gwpan ar waith unwaith eto. Er
i’r ymwelwyr sgorio ym munud ola’r hanner cynta, roedd bechgyn proffesiynnol
Y Barri wedi eu siglo gan chwarae ysbrydoledig Penrhyncoch ar y cae trwm.
Arbedodd golwr y Penrhyn, Derek Roberts, yn wych gic o’r smotyn gan Moralee
ym munud gynta’r ail hanner, ac er i fois y de bwyso a phwyso am weddill y
gêm, daliodd Roberts ( a gafodd gêm wych yn y gôl) a’i gyd-chwaraewyr yn
gadarn er gwaetha sawl dihangfa agos. Wrth i’r nos gau amdanom, daeth eilydd
Penrhyncoch, Paul Douglas Jones o drwch blewyn i ddiffodd y golau’n llwyr ar
rediad Y Barri yn y gystadleuaeth eleni pan lwyddodd Kendall y golwr i gael
blaen ei fysedd i arbed yn wyrthiol ymdrech Jones o ddeg llath ar hugain yn
eiliadau olaf y nawdeg munud. Mor agos ag eto mor bell, a bu gôl Hockton ym
munud gynta’r amser ychwanegol yn ddigon i setlo’r gêm gwpan gofiadwy yma. Mi fyddan nhw’n trafod y
gêm yma am amser hir ym Mhenryn, dybiwn i, ac er colli yn y diwedd, bydd yr
achlysur yn un y bydd y clwb yn edrych yn ôl arno gyda balchder am
flynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr i
Dilwyn Jones y tro hwn. Dilwyn yw Swyddog Datblygu’r Gymraeg yn y Gymuned yng
Ngheredigion. Mae e hefyd yn ohebydd pêl-droed rhan-amser gyda Radio Cymru. Mae’n briodol fod
Dilwyn yn sôn am Y Barri a ninnau’n mynd i Barc Jenner ddydd Sadwrn nesaf.
Fel y dywed, mae’r Barri ar rediad campus ar hyn o bryd a byddant ar ben eu
digon ar ôl curo Llanelli 6-1 ar Barc Stebonheath neithiwr a dringo i’r
pedwerydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol - tri phwynt y tu ôl i’r Dre
gydag un gêm mewn llaw. _______________________________________________________________________________________ 04/11/00 GYDA’R NEWYDDION bod Sven
Goran Eriksson wedi ei benodi yn rheolwr newydd tîm pêl-droed Lloegr yr
wythnos hon mi fydd hi’n ddiddorol gweld sut mae cenedl falch y Saeson yn
dygymod â’r ffaith eu bod nhw’n gorfod troi at wlad arall am achubiaeth. ‘Dyw cael tramorwr i
reoli ein timau cenedlaethol ddim yn beth newydd i ni yng Nghymru gydag enwau
Bobby Gould a Graham Henry yn dod i’r meddwl yn syth. A hyd yn oed yn Lloegr
mae gðr o Zimbabwe’n rheoli’r tîm criced, Ffrancwr yn rheoli’r tîm tenis ac
Almaenwr yn gyfrifol am eu timau rhwyfo. Ond mae pêl-droed yn
wahanol. Prif gêm y Sais, gyda’r tri llew ar y crys yn symbol o rywbeth
llawer mwy nag un ar ddeg dyn ar gae pêl-droed. Os oedd Kevin Keegan, un o
arwyr mwyaf poblogaidd y gêm yn Lloegr, yn ei chael hi gan y wasg Seisnig, pa
obaith sydd gan Eriksson druan? Does dim amheuaeth bod
gan Eriksson enw am fod yn un o hyfforddwyr mwyaf blaengar y gêm. Yn rheolwr
ar dîm Lazio yn yr Eidal, mae’n cael ei barchu am ei ymwybyddiaeth dactegol
a’i bwyslais ar fanylion. Fe wnaeth ei enw gyda IFK Gothenburg, Benfica a
Sampdoria cyn symud i’r Eidal, ac mae e wedi ei gysylltu â thimau ym Mhrydain
hefyd. Fe arwyddodd gytundeb i reoli Blackburn yn 1997 cyn tynnu nôl, mae e
wedi mynegi diddordeb mewn rheoli Manchester United ar ôl Alex Ferguson, ac
fe gafodd ei gysylltu â’r swydd yn Celtic cyn penodi Martin O’Neill. Wedi ennill pum
pencampwriaeth mewn tair gwlad, ennill y Super Cup, Cwpan Enillwyr Cwpanau
Ewrop a Chwpan UEFA mae ganddo’r record sy’n awgrymu y gallai fod yn rheolwr
rhyngwladol llwyddiannus. Mae e hefyd felly’n gyfarwydd â’r pwysau o reoli ar
y lefel uchaf. Yn 52 mlwydd oed efallai mai dyma fydd ei her fawr olaf cyn
ymddeol, ac mae e hefyd yn gallu siarad Saesneg – sy’n fwy nag ambell reolwr
yn yr Uwch Gynghrair! Yr unig elfen o CV Sven
Goran Eriksson sy’n ei adael i lawr yw’r ffaith nad yw e’n Sais. Mae ambell ffigwr
blaenllaw yn y gêm eisioes wedi mynegi ei farn ynglþn â hynny. Beth felly
sydd bwysicaf – balchder cenedlaethol neu lwyddiant? Gofynnwch i’r Gwyddelod
ac fe ddwedan nhw wrthoch chi! Petai Gweriniaeth yr Iwerddon wedi mynnu
penodi Gwyddel yn lle Jack Charlton mae’n amheus a fydden nhw wedi mwynhau
cymaint o lwyddiant yn y nawdegau.Yn bersonol does dim ots gen i pwy sy’n
rheoli tîm Cymru cyhyd â’i fod e (neu hi!) yn llwyddiannus. MI FYDD GÊMAU CYNTAF
ERIKSSON yn gwbl allweddol iddo. Bydd yn dechrau ar ei waith yn llawn amser
ar y cyntaf o Orffennaf gyda’i gêm gyntaf i ffwrdd yn yr Almaen ddau fis yn
ddiweddarach. Yn dilyn hynny Albania i ffwrdd a Groeg adref i orffen gêmau’r
grðp. Ac er bod ganddo gytundeb pum mlynedd fyddwn i ddim yn synnu y gallai cyfuniad
o fethu cyrraedd y rowndiau terfynol ac atgasedd o gyfeiriad y wasg a’r
cyhoedd greu sefyllfa fyddai’n ei gwneud hi’n amhosib iddo barhau yn ei swydd
ymhellach na’r Nadolig. Llyr Hughes Griffiths ________________________________________________________________________________________ 21/10/00 AMHOSIB Y DYDDIAU HYN yw
dianc rhag y sylw mae gêm y bêl gron yn ei chael ar y radio a’r teledu, ac
i’r llwyfannau rheiny y mae meddwl dyn wedi crwydro eto’r wythnos hon. Dyna
ichi’n gyntaf John Toshack yn parhau i gynhyrfu’r dyfroedd gyda’i ddaliadau
dadleuol am safon chwaraewyr rhyngwladol Cymru (ar waetha’ perfformiadau
digon teilwng y crysau cochion, ym marn llawer, yn gynt yn y mis). Un o lwyddiannau amlwg y
gêmau yn erbyn Norwy a gwlad Pwyl oedd Mark Delaney, un o’n cyn-chwaraewyr ni
yma, a hynny er iddo’n anffodus fethu â chychwyn gêm i Aston Villa hyd yn hyn
y tymor hwn. Chwarae teg i Delaney – rhoddodd gant y cant yn y ddwy gêm.
Pryd, serch hynny, y gwneith rhywun ddweud wrth Nic Parry ar S4C na fuodd Mark
erioed "yn llafurio mewn melin wlân yng Nghaerfyrddin nemor flwyddyn neu
ddwy yn ôl". Y gwir yw mai ym melin Tregwynt, ger Abergwaun y bu’r llanc
wrthi’n gweithio. Testun cwyn gan ambell i wyliwr o sir Benfro, mae’n siðr, a
fyddai’n hoffi i Mr Parry gael ei ffeithiau’n iawn! Braf yw meddwl fodd
bynnag fod prif ohebydd pêl-droed BBC Cymru, Ian Gwyn Hughes, yn
llygad ei le’n ddiweddar wrth ganu clodydd rheiny sydd wrth y llyw yma yng
nghlwb Caerfyrddin. Wedi ei sylwebaeth deledu fyw ar yr ornest yn erbyn Wrecsam
yng nghystadleuaeth y Prif Gwpan (FAW Premier Cup), soniodd am y
drefnyddiaeth dda a’r ymdeimlad gref o berthyn sy’n amlwg i bob ymwelydd â
Pharc Waundew. Mae diddordeb y "Dre" yn y gystadleuaeth, wrth gwrs,
yn parhau wedi i gôl Ryan Nicholls o’r smotyn drechu clwb Bangor yma ddydd
Sadwrn diwethaf. I gwblhau’n gwibdaith fer
ar hyd a lled y byd darlledu, siawns fod sawl un ohonom wedi mwynhau sylwadau
craff ein parchus reolwr, Tomi Morgan, ar Radio Cymru yn ystod y gêm gyffrous
yng ngwlad Pwyl ddeng niwrnod yn ôl. "Dobrze, Tomasz"
("Ardderchog", ym mamiaith y Pab) oedd y farn gyffredinol ymhlith y
darlledwyr brodorol yn Warsaw – a oedd hefyd mae’n debyg yn hynod falch eu
bod yn rhannu blwch y wasg gyda sgoriwr un o goliau’r mis eleni ar ein sianel
deledu genedlaethol! Radio Armenia amdani nesaf ym mis Mawrth, Tomi? GAIR O GYDYMDEIMLAD cyn
cloi heddiw i’n bechgyn ni wedi eu perfformiad dygn yn erbyn y Drenewydd nos
Fawrth – gwynt a glaw ym Mhowys, a cholli gêm gyffrous ar waetha’ gôl gysur
Richard Parker. Codwch yr ysbryd bois, anghofiwch y canlyniad hwnnw ac ymlaen
bo’r nôd heddiw yn erbyn ein hymwelwyr o’r brifddinas! Martin Hopwood ________________________________________________________________________________________ 10/10/00 FUES I ERIOED YNO - wel, yn
y cnawd beth bynnag. Ond fe fues i yno gannoedd o weithiau yn fy
mreuddwydion! Roedd brolio mawr adeg
codi’r lle hwn ei fod yn fwy na’r Coliseum yn Rhufain a bod y waliau’n fwy na
waliau Jericho. Ac fe gyfeiriodd Pele ato fel ‘prifddinas pêl-droed’. Ie,
Stadiwm Wembley. Cofiwch, nid ar gyfer
pêl-droed y cafodd ei godi’n wreiddiol, ond i gynnal Arddangosfa’r
Ymerodraeth Brydeinig 1924 a drefnwyd gan Lywodraeth y Brenin Sior V. Beth
bynnag am hynny, fe’i codwyd mewn pryd i gynnal Gêm Derfynol Cwpan y Gymdeithas
Bêl-droed ym 1923 rhwng Bolton Wanderers a West Ham United - mewn 300 diwrnod
ar gost o £750,000. Yn swyddogol roedd y dyrfa’n 126,047 - ond roedd o leiaf
220,00 yn y stadiwm! Daeth yr Arddangosfa yn y flwyddyn ganlynol ond yn debyg
i Dôm y Mileniwm bu tipyn o lanast yn hanes Wembley wedyn. Fe’i gwerthwyd i’r
entrepreneur Arthur J Elvin am bris isel - £122,500. Gwerthodd hwnnw’r lle
mewn munud o amser am £150,000 a buddsoddi’r elw mewn cyfranddaliadau yng
Nghwmni Stadiwm Wembley a Rasio Milgwn. Daeth yn gartref i Gwpan y Gymdeithas
Bêl-droed ac, ym 1929, chwaraewyd gêm derfynol Cwpan Rygbi’r Gynghrair yno am
y tro cyntaf. Wel, dyna ddigon o hanes.
Yn ôl at y breuddwydion a’r cyffro. Tybed beth sy’n aros yn y cof i chi am
Wembley? Gêm Derfynol Matthews ym 1953, efallai? Gydag 20 munud i fynd roedd
Blackpool, tîm Stanley Matthews, yn colli 3-1 i Bolton Wanderers ond y dewin
yn gweddnewid y gêm i sicrhau buddugoliaeth 4-3 i’w dîm. Beth am Gêm Derfynol
Cwpan y Byd 1966 rhwng Lloegr a’r Almaen pan enillodd y Saeson 4-2 ar ôl
amser ychwanegol? A dyna fuddugoliaeth ysgubol Cymru yn erbyn Lloegr ym
Mehefin 1977 pan sgoriodd Leighton James benalti - yr unig Gymro i sgorio gôl
fuddugol yn erbyn y Saeson yn Wembley. Wedyn, Caerdydd yn curo Arsenal i
ennill Cwpan y Gymdeithas Bêl-droed ym 1927 - yr unig dro i’r Cwpan adael
Lloegr. Ac wrth gwrs, buddugoliaeth Abertawe yn erbyn Huddersfield yn Nhlws
yr Autoglass ym 1994, a’r siom pan gollodd yr Elyrch yn erbyn Northampton yn
y funud olaf ym 1997 wrth geisio cael dyrchafiad i Ail Adran y Gynghrair
Nationwide. Wel, mae’r rhestr yn
hirfaith. A gellir hefyd ychwanegu campau o fyd bocsio, rygbi a chyngherddau
pop ac ati at y rhestr. BELLACH, MAE WEMBLEY wedi
cau a’r broses o ddadfeilio’r adeilad ar fin dechrau. Ni ddaw cyfle i mi
ymweld â hen ‘eglwys gadeiriol pêl-droed’ byth eto. Ond gallaf ddal i
freuddwydio. A phwy a ðyr, efallai y caf gyfle i fynd i’r Wembley newydd - yn
y cnawd y tro hwn. Alun Charles _____________________________________________________________________________ 03/10/00 ROEDD Y PAPURAU‘N GYTÛN
dros y Sul wrth edrych ymlaen at gêm dyngedfennol Cymru yn erbyn Norwy ddydd
Sadwrn yma. O’r diwedd fe ddaeth cyfle mawr John Hartson. Ar ôl siom anafiadau a
disgyn i’r adran gyntaf gyda Wimbledon y tymor diwethaf, heb anghofio’r
trosglwyddiadau i Tottenham a Rangers a ohiriwyd ar y funud olaf, mae’n debyg
y bydd John Hartson yn cerdded ar faes Stadiwm y Mileniwm am dri o’r gloch
dydd Sadwrn gyda disgwyliadau cenedl gyfan yn pwyso’n drwm ar ei ysgwyddau. Ac yntau wedi ennill
deunaw cap dros ei wlad syndod oedd deall mai dim ond ddwy waith y cafodd
chwarae’r 90 munud cyfan dros Gymru. Dechrau deg gêm a chael ei eilyddio wyth
o weithiau, ac ymddangos fel eilydd ar yr wyth achlysur arall. Prin felly y
gellir dadlau bod Hartson wedi cael cyfle teg i adael ei farc ar y gêm
rhyngwladol yng Nghymru. Ers iddo ennill ei gap
cyntaf yn erbyn Bwlgaria nôl ym mis Mawrth 1995 (gan chwarae ei gêm gyfan
diwethaf yn erbyn y Swisdir yn 1996) mae gyrfa rhyngwladol y gðr o Abertawe wedi
bod yn un rhwystredig a dweud y lleiaf. Chwarae deunaw, ennill tair a sgorio
dim ond dwy. Ond mae ei berfformiadau
diweddar yn awgrymu ein bod o’r diwedd yn gweld arwyddion o’r hen Hartson
oedd ar ei orau yn Arsenal a West Ham, a hynny am y tro cyntaf ers
blynyddoedd. Mae’n ymddangos bod y profiad anffodus o gael ei wrthod gan ddau
o glybiau mwyaf Prydain, yn enwedig Rangers a Chynghrair y Pencampwyr, wedi
bod yn sbardun iddo. Hartson gwahanol iawn fydd yn ymddangos dros ei wlad
ddydd Sadwrn o’i gymharu â’r cymeriad trwsgl hwnnw oedd yn cario digon o
bwysau i ennyn sen o gyfeiriad ei gefnogwyr ei hun yng ngwres Tunisia ddwy
flynedd yn ôl. Mae’r golled ym Melarws
wedi creu sefyllfa ennill-ar-bob-cyfrif i Gymru dydd Sadwrn. Os yw’r
chwaraewyr wedi ymateb yn bositif i arweiniad Mark Hughes mae hynny eto i
ddwyn ffrwyth ar y cae. Perfformiadau addawol ond canlyniadau siomedig fuodd
hi hyd yma. Efallai mai perfformiad cofiadwy gan Hartson yw’r catalydd sydd
ei angen i droi’r holl heip yn bwyntiau. Ar ei orau mi allai’r
ymosodwr chwe troedfedd a thair modfedd godi braw ar unrhyw amddiffyn yn y
byd. Mae ganddo ddigon o galon ac angerdd i faddau ambell garden felen iddo,
ac os caiff rediad teilwng o gêmau yna does dim rheswm pam na all Hartson fod
yn un o gonglfeini’r tîm cenedlaethol am flynyddoedd i ddod. OND BETH BYNNAG yw
cynlluniau Hughes ar ei gyfer yn erbyn Norwy, a beth bynnag oedd y papurau yn
ei ddarogan dros y Sul, mae’n anodd gen i beidio â meddwl nad chwarae i Gymru
y bydd Hartson dydd Sadwrn - ond chwarae am ei yrfa. Llyr Hughes Griffiths ________________________________________________________________________________________ 30/09/00 BAND UNDYN (?) WELSOCH chi’r grasfa ‘na
gafodd Everton ar eu tomen eu hunain ym Mharc Goodison gan Manceinion Unedig
ar Match of the Day bythefnos yn ôl? Nid curo Everton wnaeth y Cochion
ond eu chwipio’n ddidrugaredd, gan chwarae - o leiaf yn yr hanner cyntaf -yn
frawychus o dda. Roedd Syr Alex Ferguson ar ben ei ddigon. ‘Ein perfformiad
gorau’r tymor hwn’, meddai am yr hanner cyntaf. Roedd y Gleision yn well ar
ôl yr egwyl ond yn bell iawn o fod yn ddigon da i stopio’r peiriant coch! Ac
mae’n siðr eu bod yn diolch i’r Bod Mawr nad oes angen iddynt fynd i Old
Trafford tan fis Chwefror 2001! Hyd yn oed yn awr - ar
ddechrau tymor - mae llawer yn dweud fod Pencampwriaeth y Brif Gynghrair
eisoes ym mhoced Manceinion Unedig. Yn wir, mae Walter Smith, rheolwr
Everton, yn honni bod y Brif Gynghrair yn troi’n dipyn o fand undyn. Dyma’i
ddadl .... Mae’r Brif Gynghrair yn gystadleuol - ond beth yw lefel y
gystadleuaeth pan mae un tîm wedi ennill y Bencampwriaeth chwe gwaith a dod
yn ail ddwywaith yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf? Mae’r Sgotyn Walter hefyd
yn gweld sefyllfa debyg yn yr Alban lle mae Rangers yn geffylau blaen. ‘Un
tîm sydd yn yr Alban’, meddai, ‘ac nid yw hynny’n ddelfrydol’. A chyn reolwr
Rangers sy’n siarad, cofiwch. Wrth gwrs, rydyn ni’n hen
gyfarwydd â chân Walter yma yn y Gynghrair Genedlaethol. Mae hi fel tôn gron!
Sawl gwaith y clywsoch fod y Gynghrair Genedlaethol yn fand undyn? Tref y
Barri ydi’r tîm ac mae pob tîm arall yn eilradd. Wrth gwrs, mae’r clwb wedi
cael llwyddiant ysgubol - pencampwyr ym 1995-6, 1996-7, 1997-8 a 1998-9, ac
yn ail ym 1999-00, heb sôn am gipio cwpanau ac ati. A phetai Walter Smith yn
gwybod y ffeithiau hyn, mae’n siðr y byddai’r un mor llawdrwm ar y Gynghrair
Genedlaethol am droi’n fand undyn ag y mae ar y Brif Gynghrair a Chynghrair
yr Alban. Ond hanner stori sy yma.
Ystyriwch am funud y dylanwad a gafodd Tref y Barri. Mae wedi dod â llawer o
hygrededd i’r Gynghrair - a chyhoeddusrwydd da. Dyma’r clwb cyntaf yn y
Gynghrair Genedlaethol, er enghraifft, i fynd y tu hwnt i’r rownd agoriadol
mewn unrhyw gystadleuaeth Ewropeaidd. Mae chwarae’r clwb hefyd wedi bod yn
ddeniadol. Mewn gair, mae Tref y Barri wedi gosod safon - rhywbeth y gall
clybiau eraill anelu ati. Anodd ydi cystadlu â staff proffesiynol amser-llawn
ond, chwarae teg, mae clybiau wedi gafael yn yr abwyd. Heb amheuaeth, mae
dylanwad Tref y Barri’n dechrau treiddio drwy’r Gynghrair. O ganlyniad, mae’r
safon yn codi o flwyddyn i flwyddyn. A pheth da ydi hyn. Mae’r bwlch yn
dechrau cau a dyw Tref y Barri ddim yn gallu cymryd unrhywbeth yn ganiataol
erbyn hyn. Does dim ond rhaid dweud TNS! Ac nid Tref y Barri yw tip pob un o
banelwyr Gôl i ennill y bencampwriaeth ym 2001. Am newid byd! FELLY, Walter, mae’n
ddrwg gen i am y grasfa, Ond cymer gysur oddi wrthon ni yn y Gynghrair
Genedlaethol. Mae’n bosib cau’r gagendor. Ac wrth edrych yn ôl dros y
blynyddoedd diwethaf, diolch byth am ambell fand undyn, ddweda i! R Alun Charles ________________________________________________________________________________________ 22/09/00 LLONGYFARCHIADAU CARWN YN GYNTAF
longyfarch golygyddion y rhaglen hon a gweddill y tîm sy’n cyhoeddi rhaglen
swyddogol Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin ar ennill y wobr am y rhaglen orau
yng Nghynghrair Cymru am y tymor 1999-2000. Yn sicr, mae’r ffaith eu bod yn
rhoi sylw teilwng i’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg yn gosod esiampl dda.
Ar hyn o bryd mae Menter Iaith Myrddin yn annog clybiau eraill mewn gwahanol
chwaraeon i ddilyn esiampl Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin. Byddai gweld holl
glybiau’r ardal yn cyhoeddi rhaglenni dwyieithog yn beth ardderchog. MATTHEW JONES RWYF WRTH FY MODD yn
dilyn hynt a hanes y bachgen ifanc Matthew Jones o Lanelli sydd eisoes wedi
ennill ei gapiau cyntaf dros ein tîm cenedlaethol. Fe ymunodd ef a’i gyfaill
Kevin Evans o Gilgeran â Leeds United pan oeddent yn 15 oed.. Mae Matthew’n
chwarae’n gyson i dîm cyntaf Leeds a Kevin yn yr ail dîm, ond yn awr mae wedi
cael cytundeb blwyddyn gyda Bobby Gould yng Nghaerdydd. Dyma ichi enghraifft dda
arall o’n bechgyn lleol ni yn llwyddo yn y gêm ar y raddfa uchaf. Fel Mark
Delaney fe fuon nhw’n chwarae i Dîm Ysgolion Dyfed a Chymru o dan 15 oed.
Rwy’n cofio’n dda galw am Matthew yn y car yn aml am wyth o’r gloch ar fore
Sadyrnau yn ardal y Morfa, Llanelli, ac am Stuart Roberts (sy’n chwarae i
Abertawe) i fynd â nhw i chwarae dros ysgolion Dyfed yn erbyn Ysgolion
Caerdydd, Casnewydd ac eraill fel rhan o gystadlaethau Ysgolion Cymru o dan
15 oed. Un arall o’r bechgyn dawnus hynny oedd Barry Morgan o Blwmp a
chwaraeodd ei gêm gyntaf i Abertawe ddydd Sadwrn diwethaf. Roeddwn i hefyd yn
Gadeirydd Cymdeithas Ysgolion Cymru ar y pryd ac yn mynd â’r bechgyn i
chwarae gêmau rhyngwladol yn Windsor Park, Belfast, yn Fratton Park,
Portsmouth, Le Havre yn Ffrainc a llawer gwlad arall. Efallai y bydd rhai
ohonoch yn cofio Bobby Gould yn rhoi anrhydedd y chwaraewr gorau i Matthew
Jones yn y gêm ryngwladol yma ar Barc Waundew yn erbyn Iwerddon sawl blwyddyn
yn ôl. Roeddwn i’n eistedd yn ymyl Bobby Gould yn ystod y gêm honno ac fe
gafodd gryn anhawster i benderfynu ai Matthew ynteu Wayne Evans o Landysul
oedd y gorau. Dau fachgen lleol ar y blaen i bawb arall. Roeddwn i gyda thîm
ysgolion Cymru dan 15 pan oedd Craig Bellamy (Coventry) a Chris Llewellyn
(Norwich) yn chwarae i ni. Fe ddes i adnabod y bechgyn hyn yn dda a chofiaf
am Chris Llewellyn (Norwich) yn dod ‘nôl gyda fi ar y trên i Abertawe o
Gaerdydd ar ôl dod dod nôl o ryw gêm ryngwladol ac yntau wedi gwario ei arian
i gyd. Fi dalodd am ei docyn o Gaerdydd i Abertawe. Cofiaf hefyd am Leon
Jeane (QPR yn awr) yn mynd allan am dro gyda gweddill tîm Cymru y noson cyn
gêm ryngwladol yng ngogledd Cymru ac yn dod ata i a dweud nad oedd arian
ganddo i brynu dim gan ei fod wedi anghofio ei waled (!). Rhoddais fenthyg £5
iddo. Efallai y caf gyfle i ddweud wrtho rywbryd fod arno fe £5 i mi o hyd!! Rwy’n aml yn meddwl beth
ddigwyddodd i nifer fawr o’r bechgyn eraill y des i ar eu traws. Ble maen nhw
nawr tybed? Ble mae’r efeilliaid addawol Fenton a arwyddwyd gan Lerpwl, ac
Eifion Jones o Gaernarfon nad oedd yn bwyta dim ond crisps a bisgedi ddiwrnod
cyn pob gêm. O’R CRIW Y CES I’R FRAINT
o ddod i gysylltiad â nhw, Matthew Jones sy’n dod i’r brig ar hyn o bryd, a
phob llwyddiant iddo eto i’r dyfodol. Peter Hughes Griffiths ____________________________________________________________________________ 09/09/00 RHAID CAEL ‘GWYLIWR AR
Y TÐR’ i warchod
buddiannau sawl peth yn y Gymru gyfoes. A dyw pêl-droed ddim yn eithriad! Byddaf yn edrych ymlaen
bob blwyddyn at brynu’r News of the World Football Annual. Mae’n
llyfryn diddorol ac yn cynnwys popeth am bêl-droed. Wel.. bron popeth, beth
bynnag. Beth am bêl-droed yng Nghymru, meddech chi? Mae’n wir bod ynddo
fanylion a ffeithiau am gêmau rhyngwladol a chwaraewyr rhyngwladol Cymru.
Hefyd, mae’n cynnwys tabl y Gynghrair Genedlaethol y llynedd. Ond ble mae
hwn? Yn gymysg â thablau’r Nationwide Conference, Dr. Martens, Cynghrair
Ryman ac yn y blaen - dan y pennawd ‘Cynghreiriau Eraill’!. Does dim byd am
Gwpan Cymru yn y llyfryn. Ydw i’n gofyn gormod,
tybed? Wel, cyn ateb, ystyriwch yr Alban ac Iwerddon. Mae adrannau ar
wahân ar gyfer pêl-droed yr Alban (gan gynnwys canlyniadau cynghrair a
chwpan y llynedd) a phêl-droed Iwerddon (gan gynnwys canlyniadau cwpan y
llynedd). Hefyd, mae yna restr o gêmau Cynghrair yr Alban a charfannau’r
timau i gyd ar gyfer 2000-2001. Mewn cymhariaeth, tila yw’r manylion am
Gynghrair Genedlaethol Gymru. Na, dwi ddim yn afresymol. A digon posibl y
byddai’r News of the World yn ymateb yn ffafriol i gais am well statws
i Gymru. Pwy a ðyr? Wedyn trowch at y rhaglen
ardderchog (yn costio £10.00 gyda llaw!) i ddathlu gêm derfynol olaf Cwpan y
Gymdeithas Bêl-droed yn Wembley ar 20 Mai 2000 rhwng Aston Villa a Chelsea.
Mae’n dda darllen am Mark Delaney a’r ‘Dre’ ynddo. Ond sylwch ar y frawddeg
hon am Mark : ‘Barely 12 months earlier he had been working as a packer in
a wool factory and playing non-league football for Carmarthen
Town...’. Ie, yr hen ymadrodd ‘non-league football’ yn codi’i ben unwaith
eto. A yw hyn yn ddigon da? Dwi ddim yn meddwl. A dewch yn nes adre. Hyd yn
oed oddi mewn i Gymru mae’r term ‘non-league’ ar waith. Wrth adael Crystal
Palace i ddod yn rheolwr ar Dref y Barri, dywedodd Peter Nicholas wrth y Western
Mail (1.7.00) : ‘I would not have left the Nationwide League for any
other non-league club’. A dywed eto yn Rhaglen Tref Y Barri yn
erbyn Boavista yng Nghwpan UEFA (24.8.00) ‘ Barry is the only non-league
club in Wales I would have considered working for’. Er bod rhywun yn
gallu gwerthfawrogi beth sy ar feddwl Nicholas, unwaith eto dyw’r defnydd o’r
ymadrodd ‘non-league’ ddim yn ddigon da. OES, MAE’N RHAID CAEL
GWYLIWR ar y tðr, yn enwedig i ddiogelu buddiannau’r Gynghrair Genedlaethol.
Rhaid procio, amddiffyn, diogelu a goleuo o hydac o hyd. Allwn ni ddim
fforddio bod yn esgeulus. Ych chi’n cofio beth ddigwyddodd i Cantre’r
Gwaelod? R Alun Charles ________________________________________________________________________________________ 06/09/00 MAE’N FFAITH ERS RHAI
BLYNYDDOEDD bellach mai chwaraewyr a’u cyflogau sy’n rheoli’r gêm erbyn hyn.
O Gynghrair y Pencampwyr i’r Gynghrair Genedlaethol mae talu cyflogau
chwaraewyr yn faich aruthrol i glybiau ar bob lefel. Ac os bydd y system o
drosglwyddo chwaraewyr yn newid mi fydd sefyllfa’r clybiau’n gwanhau hyd yn
oed ymhellach. Dim ond rhai wythnosau yn
ôl fe gyhoeddodd y cyfrifwyr Deloitte and Touche adroddiad arbennig ar y
sefyllfa a ddangosodd fod clybiau Prydain yn gwario dwy ran o dair o'u holl
incwm ar gyflogau eu chwaraewyr. Hyn oedd yn bennaf gyfrifol am sefyllfa
ariannol bregus sawl clwb, ac wrth gwrs ‘dyw gwario ffortiwn ddim o reidrwydd
yn sicrhau llwyddiant ar y cae. Ond sut y gellir mynd ati
i reoli’r ffolineb yma sydd bellach wedi mynd y tu hwnt i bob synnwyr? Pa
opsiynau sydd ar gael i’r clybiau i’w helpu i gadw eu chwaraewyr gorau heb
orfod plymio i ddyledion aruthrol yn y banc ? Un posibilrwydd yw gosod
uchafswm cyflog sy’n syniad da mewn theori, ond ar lefel ymarferol bron yn
amhosib i’w weithredu. Mi allai hynny danseilio hawliau cyfreithiol
chwaraewyr pêl-droed i ennill cyflogau, ac mi fyddai rhai clybiau’n siðr o
ychwanegu at y cyflogau trwy gynnig manteision eraill megis tai a cheir ac yn
y blaen. Mae llywydd UEFA’n gweld
opsiwn arall fel yr ateb i’r broblem. Cred Lennart Johansson mai’r ateb i
gyflogau a throsglwyddiadau drud yw rhoi trwyddedau i glybiau. O dan ei
argymhelliad ef byddai clybiau sy’n methu balansio eu llyfrau yn cael eu
gwahardd o gynghreiriau a chystadlaethau cenedlaethol. Efallai fod hyn yn
ddadleuol tu hwnt ond byddai’n sicrhau dyfodol ariannol y gêm gan greu
sefyllfa mwy positif a chytbwys i’r clybiau’n gyffredinol. Wedi’r cyfan, does
dim synnwyr bod pencampwyr Ewrop, Real Madrid, yn dechrau tymor newydd yn
Sbaen â dyledion o dros £100 miliwn. Yn nes at adref, rhwng
1994 a 1999 fe wariodd Newcastle United £61.5 miliwn heb ennill un
bencampwriaeth. Yn yr un cyfnod gwariodd Manchester United £23 miliwn ac
ennill y bencampwriaeth dair gwaith. Mae hynny’n profi nad arian sydd o
reidrwydd yn sicrhau llwyddiant. Mae’n siðr mai
Aberystwyth sydd ag un o’r biliau cyflog mwyaf yn y Gynghrair ar wahân i’r
Barri ac er cael tymor eithaf siomedig llynedd efallai ei bod hi’n argoeli’n
well eleni ar ôl arwyddo mwy fyth o chwaraewyr profiadol dros yr haf. BETH BYNNAG fydd y
canlyniad heno does ond gobeithio y gellir gwneud rhywbeth i reoli’r sefyllfa
bresennol sydd yn gosod pwysau ariannol aruthrol ar ein clybiau. Does ond
rhaid meddwl am y sefyllfa ym Mangor eleni a thrybini Inter Caerdydd llynedd
i ddangos na all y sefyllfa bresennol fod yn llesol i’r gêm . LLyr Hughes
Griffiths _______________________________________________________________________________________ Y FFWL MONTI
26/08/00 Faint ohonoch chi oedd yn
gwybod bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi gwneud cyhoeddiad bythefnos yn ôl a
allai newid y system o drosglwyddo chwaraewyr pêl-droed am byth? Ar 11eg Awst fe
gyhoeddodd Comisiynydd o’r enw Mario Monti bod Ewrop yn ystyried newid y
system o drosglwyddo chwaraewyr am nad yw FIFA wedi llwyddo i gyflwyno system
sy’n cyd-fynd â rheolau Ewropeaidd ar gystadleuaeth deg a rhyddid i weithwyr
(chwaraewyr pêl-droed yn yr achos hwn) i symud o un wlad i’r llall. Ar yr olwg gyntaf mae hyn
yn gymleth eithriadol ond os digwydd y gwaharddiad fe all y farchnad
drosglwyddo newid yn llwyr gyda oblygiadau aruthrol i’r gêm drwy Ewrop. Mae ffioedd trosglwyddo i
chwaraewyr sy’ mâs o gytundeb eisioes wedi eu gwahardd ers 1995 o dan reol
Bosman - ond nawr y bwriad yw rhoi diwedd ar daliadau trosglwyddo i
chwaraewyr sydd yn dal i fod yn rhwym i’w cytundeb. Sail y broblem yw bod
rheolau Ewropeaidd yn datgan yn glir y dylai gweithwyr sy’n byw yn yr Undeb
Ewropeaidd fod yn rhydd i weithio yn unrhyw ran o’r Undeb heb rwystr. Ond mae
chwaraewyr pêl-droed sydd o dan gytundeb yn rhwym i un clwb am gyfnod penodol
ac felly’n methu symud yn rhydd i arfer eu crefft yn rhywle arall. Barn y Comisiwn yw bod
FIFA, ar ôl digon o rybudd, wedi methu cynnig system dderbyniol a fyddai’n
ateb y broblem ac felly mae’r Comisiwn ei hun yn ystyried delio â’r mater.
Mae sibrydion cynnar yn awgrymu y gallai rhyw fath o iawndal am gost hyfforddi’r
chwaraewr gymryd lle’r tâl trosglwyddo. Ond pwy fyddai’n penderfynu faint
sy’n daladwy? Opsiwn arall yw bod yr iawndal yn seiliedig ar y rheolau
arferol ym mhob gwlad pan fo gweithiwr yn torri cytundeb gwaith. Dim ond cyhoeddi eu bod
yn ystyried gweithredu a wnaeth y Comisiwn Ewropeaidd bythefnos yn ôl. Mae’r
pwysau nawr ar FIFA i gyd-weithredu a chynnig system newydd. Yr unig obaith
arall yw gwneud chwaraeon yn achos arbennig nad sy’n rhwym o dan gyfreithiau
Ewrop. Bydd cyfle i wneud hynny yn nes ymlaen eleni pan fydd llywodraethau’r
Undeb Ewropeaidd yn dod at ei gilydd, ond mae hynny’n go anhebygol gan bod
angen cefnogaeth unfrydol pob un o’r pymtheg gwlad. Beth bynnag a wnaiff Mr.
Monti a’i griw mae un peth yn sicr - byddai newid y sustem bresenol yn
gwedd-newid holl ochor fusnes y gêm. Mae pobol eisioes yn cwyno bod gormod o
rym gan y chwaraewyr a biliau cyflog nifer o’n clybiau yn gwbl afresymol. Os
tanseilir y system gytundeb a throsglwyddo mi allai hynny ryddhau chwaraewyr
i symud bob tro mae clwb yn cynnig mwy o arian iddyn nhw. Byddai’r fath
ffolineb yn ansefydlogi’r gêm yn llwyr. Llyr Hughes
Griffiths |
O
Gwmpas Waundew Tymor 1999-2000