O Gwmpas Waundew Tymor 1999-2000
29/04/00 Y Drenewydd
RWY’N SIWR y gwnewch chi faddau imi am ddefnyddio’r golofn hon i wneud apêl arbennig. Yn sicr, nid fi yw’r unig un sydd wedi dioddef yr anffawd yma ac felly mae’n siðr y gellir ystyried fy apêl yn un ar ran miloedd o gyd-Gymry - oes gan rywun docyn sbâr i gêm Brasil?
Ar ôl methu cael tocyn dros y ffôn ddydd Mawrth mi ges i fflach o ysbrydoliaeth. Os oedd ciw anferth y tu fâs i’r swyddfa docynnau a’r llinellau ffôn ar dân, efallai y cawn i fwy o lwc wrth brynu tocyn ar y rhyngrwyd. Ond er mawr siom mi fethais â ffeindio unrhyw safle ar y we oedd yn cynnig gwerthu tocynnau ac erbyn hynny roedd hi’n rhy hwyr - so much am dechnoleg fodern!
A finnau wedi colli gêm Y Ffindir o achos cyfarfod o’r Cyngor (oes, mae ambell beth yn gorfod cael blaenoriaeth dros y bêl gron), roeddwn i wedi cadw’r 23ain o Fai yn glir yn fy nyddiadur ers clywed y suon cyntaf am gêm bosib yn erbyn y gwþr o Dde America. Ond yr hyn a’m gwylltiodd yn fwy na dim oedd gweld un cefnogwr ar y teledu yn chwifio 94 tocyn yn yr awyr tra ‘mod i wedi methu cael gafael ar un. Ar ôl gwerthu mâs yng ngêm Y Ffindir mi ddylai’r Gymdeithas Bêl-Droed fod wedi rhagweld y byddai hyn yn digwydd. Mi ddylen nhw fod wedi gosod system yn ei le i sicrhau mai dim ond rheiny oedd am drefnu bysiau i’r gêm allai brynu nifer fawr o docynnau. Ond dyna ni, mae gwerthu mâs yn brofiad yr un mor newydd i’r Gymdeithas Bêl-Droed ag yw e i ni’r cefnogwyr. Does ond gobeithio y ceir gwell sioe ar y cae na’r un yn erbyn Y Ffindir.
Ryan Giggs yn erbyn Brasil - dyna fydd hi yn ôl y papurau mae’n siðr. Ond bydd gofyn i bob un o’r chwaraewyr berfformio cystal â Giggs os yw Cymru am osgoi curfa iawn. Roedd hi’n braf gweld Craig Bellamy ‘nôl yn nhîm Norwich ddydd Llun ac rwy’n edrych ymlaen i’w weld e’n cael y cyfle i brofi ei hunan yn erbyn rhai o amddiffynwyr gorau’r byd. Mi fydd hi’n ffenest siop arbennig i dalentau Cymru ac yn gyfle i fois fel Bellamy, Barnard a Carl Robinson ddenu sylw’r Uwch Gynghrair.
Os yw Mark Hughes yn chwilio am gwpwl o tips i helpu’r amddiffynwyr efallai y dyle fe gael gair gyda Tomi Morgan. Ar ôl curo Flexsys yr wythnos ddiwethaf fe gwblhaodd y Dre gamp arbennig iawn. Caerfyrddin yw’r tîm cyntaf i beidio ildio gôl yng Ngogledd Cymru drwy’r tymor. Caernarfon, Bangor, Conwy, Rhyl, Cei Connah a nawr Derwyddon Cefn. Mae’n siðr bod hynny’n dweud y cyfan am lwyddiant ysgubol y tîm eleni.
GAN MAI HWN YW RHAGLEN OLA’R TYMOR ga’i longyfarch Tomi a’r chwaraewyr am flwyddyn anhygoel. Petai rhywun wedi dweud wrtha i ar ddechrau’r tymor bod Caerfyrddin yn mynd i orffen yn y pedwar uchaf eleni mi fyddwn i wedi eu hwfftio. Felly os na wnawn ni gyrraedd Ewrop y tro hwn does dim rheswm o gwbl inni fod yn siomedig. Beth bynnag fydd y canlyniad heddiw mi fydda i’n mwynhau fy hunan heno ac yn dathlu’r tymor mwyaf llwyddiannus yn hanes Clwb Pêl-Droed Caerfyrddin. A chofiwch, os oes ganddoch chi docyn sbâr i gêm Brasil…
Llyr has missed out on a ticket for the Brazil game. Can anyone help?!
15/04/00
GALLWCH DDYCHMYGU FY SIOM bore dydd Iau pan ddeffrais i weld yn y Western Mail bod Cwmbrân wedi curo Hwlffordd o un i ddim y noson cynt. Wedi’r cwbwl, byddai gweld Cwmbrân yn colli pwyntiau wedi bod yn hwb mawr i obeithion Caerfyrddin i gyrraedd Ewrop.
Ond nid y canlyniad oedd yn fy siomi fwyaf. Mi fyddech chi’n disgwyl canlyniad o’r fath, os nad o fwy o goliau hefyd o gofio bod Cwmbrân yn ymladd am le yn Ewrop a Hwlffordd yn brwydro i aros yn y Gynghrair. Y rheswm am y siom oedd imi weld canlyniad yr un gêm ar Sport Wales (rhaglen nosweithiol am chwaraeon Cymru ar BBC Choice Wales) y noson gynt a ddywedodd bod y gêm wedi gorffen yn gyfartal ddi-sgôr - oedd wrth gwrs yn gwbl anghywir.
Fe gododd hyn rai cwestiynnau yn fy meddwl am le a statws y Gynghrair Genedlaethol yn y wasg a’r cyfryngau Cymreig. Sgwn i os byddai Gary Lineker wedi rhoi sgôr anghywir i gêm Chelsea? Rwy’n amau rhywsut.
Yn aml iawn mae’n cymryd stori negyddol i sicrhau sylw teilwng i’r Gynghrair. Mae stori am glwb yn mynd i drafferthion ariannol yn gwneud eitem newyddion reit ddeniadol mae’n siðr, gyda trafferthion presenol Bangor yn enghraifft glasurol.
Ond mae’n rhaid dweud bod y ffaith bod TNS yn llwyddo i herio’r Barri am y bencampwriaeth eleni wedi dod fel chwa o awyr iach i’r newyddiadurwyr. Mae’n siðr na fyddai dim byd mwy diflas gan y cyfryngau na gorfod dangos Barri’n curo pawb o un wythnos i’r llall gan sicrhau’r bencampwriaeth cyn diwedd mis Chwefror! Ond nid felly y mae hi eleni.
Ac o ganlyniad, mae’r Gynghrair Genedlaethol wedi mwynhau cryn dipyn o sylw yn y Western Mail yr wythnos hon. Rhan helaeth o’r dudalen gefn ddydd Mawrth wedi ei neilltuo i gêm TNS ac Aberystwyth, gan sôn am gyfle TNS i fynd i frig y tabl. Yna, sylw mawr i’r ffaith eu bod nhw wedi llwyddo i wneud hynny ddydd Mercher, a sicrhau lle yn Ewrop yn y broses.
Un rhwystredigaeth imi o safbwynt y wasg yw nad y’n nhw’n argraffu’r tabl diweddaraf ar ôl noson o gêmau yn y Gynghrair. Mae’n drueni nad oes modd gweld sut mae canlyniadau tri neu bedwar o gêmau canol wythnos yn effeithio ar bethau. Er i’r Western Mail argraffu brig y tabl ddwy waith yr wythnos hon byddai gwneud hynny’n gyson yn rhywbeth i’w groesawu.
O safbwynt y cyfryngau mae’n rhaid canmol y BBC sydd fel arfer yn rhoi sylw arbennig i’r gynghrair ar Wales on Saturday, Gôl ac yn arbennig ar Chwaraeon Radio Cymru. Mae’r Cwpan Cenedlaethol hefyd wedi rhoi ffocws ychwanegol i’r clybiau a’r cefnogwyr, sydd, yng nghysgod Y Barri, heb orfod cystadlu am y bencampwriaeth er mwyn cael mwynhau cryn dipyn o sylw ar y teledu.
FELLY, gyda’r bencampwriaeth dipyn yn fwy agored eleni does ond gobeithio y gwelwn ni fwy a mwy o sylw yn cael ei roi i’n clybiau ni - a fydd hefyd gobeithio yn help i sicrhau noddwyr i’r Gynghrair Genedlaethol.
04/04/00
BRON IAWN y gallech chi fod wedi printio "Gwawrio cyfnod disglair newydd yn hanes pêl-droed Cymru" ar y tocynnau ar gyfer gêm Cymru v Y Ffindir (nid ‘Ffyndir’ fel oedd ar glawr y rhaglen) yr wythnos ddiwethaf. Ond cael eu siomi wnaeth y 66,000 o gefnogwyr a wasgodd mewn i Stadiwm y Mileniwm.
Roedd popeth wedi argoeli mor dda. Yr holl docynnau wedi eu gwerthu am y tro cyntaf am ‘wn i ers gêm fawr Rwmania yn ’93. Y dorf fwyaf i gêm ryngwladol yng Nghymru erioed. Stadiwm gwerth ei galw’n faes cenedlaethol, rheolwr newydd wrth y llyw - ac wrth gwrs Ryan Giggs yn chwarae ei gêm gyfeillgar gyntaf ar ôl 18 cyfle a 18 anaf. Roedd y stadiwm a’r genedl yn ferw o ddisgwyliad.
Ond yn anffodus roedd un elfen ar goll yn y sgript delfrydol - perfformiad y tîm. Prin ugain munud gymrodd hi i’r Ffindir ohirio’r wawr newydd honedig gan atgoffa’r cefnogwyr nad yw stadiwm odidog ac awyrgylch drydanol yn ddigon i ennill gêm o bêl-droed.
Ar ddiwedd yr hanner cyntaf nid safon y cae oedd yn gofidio awdurdodau’r bêl gron yng Nghymru ond perfformiad di-fflach a di-galon y tîm. Dwy gôl wael wedi eu hildio a’r freuddwyd mewn perygl o droi’n hunllef. Yn wir, oni bai bod y tocynnau mor rhad rwy’n siðr y byddai ambell un wedi gofyn am eu harian yn ôl! Ond diolch byth am adfywiad yr ail hanner a pherfformiad unigol Giggs a gododd ychydig ar ysbryd y dorf.
Wedi dweud hynny mae’n debyg ein bod ni i gyd ar fai yn disgwyl gormod. Roedd ambell un yn cymharu’r bennod newydd hon gyda’r adfywiad welodd y tîm rygbi ar ddechrau cyfnod Graham Henry. A bod yn realistig mae’n ddyddiau rhy gynnar o lawer i ddechrau mesur dylanwad Mark Hughes fel rheolwr. Yr un chwaraewyr sydd ganddo ag a oedd gan Bobby Gould.
Efallai hefyd ein bod ni’n ffôl i ddisgwyl y gallai Cymru guro tîm sydd yn y 54ydd safle yn rhestr FIFA a ninnau ond yn 95ed? Ond os felly Duw a ðyr beth ddaw o’r gêmau yn erbyn Portwgal (15fed) a Brasil (1af), heb anghofio Norwy (6ed) yn yr hydref.
Mae ambell un wedi gofyn ai dod i weld y gêm neu’r stadiwm wnaeth y dorf? Roedd un o golofnwyr yr Evening Post yn awgrymu na allai Brasil hyd yn oed ddenu’r cefnogwyr hynny ‘nôl unwaith eto. Ond rwy’n anghytuno â hynny. Bydd cyfuniad y stadiwm ac un o dimau gorau’r byd (am bris rhesymol unwaith eto gobeithio) yn siðr o hudo’r cefnogwyr yn eu miloedd.
Ond bydd un broblem yn dal i beri gofid. Does dim gwadu bod gan Hughes gamp aruthrol i fowldio tîm anodd i’w guro o’r garfan sydd ganddo. Os nad oes gwella ar berfformiad yr amddiffyn yn enwedig, mi allai rhywun fel Brasil beri cryn embaras inni.
ER GWAETHAF Y GOLLED yn erbyn y Ffindir rhaid derbyn mai pwrpas gêmau cyfeillgar yw i ddysgu. Does ond gobeithio bod y profiad nos Fercher wedi gwneud y chwaraewyr, yn ogystal â’r cefnogwyr, yn fwy penderfynol byth na fydd rhaid aros llawer rhagor am y wawr hir-ddisgwyliedig.
25/03/00
DOES NEB WEDI MWYNHAU GWYLIO’R ffars a wynebodd rygbi yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf. Gyda’r sgandal ynglþn â thras Brett Sinkinson a Shane Howarth a’u hawl i chwarae i Gymru, fe ddaeth hi’n amlwg bod blwch Pandora wedi ei agor. Yr wythnos hon fe gyfaddefodd yr Alban na ddylai rhai o’u chwaraewyr nhw fod wedi gwisgo’r crys glas.
Ond dyw denu chwaraewyr i gynrychioli Cymru ar sail man geni eu rhieni, tadcu neu famgu ddim yn beth newydd. Mae llond trol o chwaraewyr pêl-droed amlwg wedi gwneud hynny dros y blynyddoedd diwethaf. Kit Symons, Mark Crossley, Andy Marriott, Glyn Hodges, Adrian Williams, Gavin Maguire a Vinnie Jones i enwi ond ambell un - gyda rhai yn profi mwy o lwyddiant na’i gilydd!
Mae’n ymddangos serch hynny fod y rheol sy’n caniatáu i ddeiliad pasport Prydeinig ddewis chwarae i unrhywun o’r pedair gwlad wedi profi’n fwy buddiol i Gymru. Pwy all anghofio un o arwyr ymgyrch Cwpan y Byd yn ’94, sef Eric Young a anwyd yn Singapore? Neu’r llwyddiant ddaeth yn sgîl trosglwyddo partneriaeth Kevin Ratcliffe a Pat Van Den Hauwe o Everton i’r lefel ryngwladol. Mae eraill yn cynnwys Dave Phillips a anwyd yn yr Almaen a John Robinson a anwyd yn Bulawayo.
Cafodd Cymru ei sgandal ei hunan yn ddiweddar pan ddarganfuwyd na ddylai Darren Barnard fod wedi chwarae i Gymru. Yn wahanol i’r bêl hirgron serch hynny cytunwyd bod y camgymeriad yn un didwyll a chafodd hawl i barhau a’i yrfa ryngwladol.
Mae yna amgylchiadau mwy abswrd wedi newid cenedlaetholdeb ambell i chwaraewr hefyd. Mi glywais stori bod mam Malcolm Page yn dychwelyd i Loegr ar ôl bod yn ymweld â ffrind rhywle ym Mhowys pan roddodd enedigaeth iddo ar ochr y ffordd lai na milltir y tu fewn i Gymru!
A beth am y chwaraewyr sydd wedi dewis peidio cynrychioli Cymru. Faint ohonoch chi oedd yn gwybod fod Kevin Sheedy wedi cael ei eni yn Aberhonddu? Er i Rob Jones, cefnwr Lerpwl gynt, gael ei eni yn Ysbyty Caer roedd pob diferyn o’i waed yn waed Cymreig. Ond gan fod rheolau UEFA’n dweud bryd hynny na chai unrhyw glwb chwarae mwy na dau neu dri tramorwr mewn gêmau Ewropeaidd, mynnodd Lerpwl ei fod e’n cofrestru fel Sais cyn cynnig cytundeb newydd iddo fe.
UN O’R MYTHS MWYAF ym mhêl-droed Cymru yw bod Ryan Giggs wedi dewis gwisgo’r crys coch yn lle chwarae i Loegr. Yn anffodus dyw hynny ddim yn wir. Ganwyd Giggs yng Nghaerdydd i dras cwbl Gymreig. Fe’i addysgwyd yn Lloegr a dyna sut y bu’n gapten ar dîm ysgolion Lloegr. Ond Cymru oedd yr unig wlad a allai ei chynrychioli ar lefel ryngwladol llawn - hynny yw pan fyddai Syr Alex Ferrguson yn caniatáu iddo wneud hynny!
Llyr Hughes Griffiths discusses the eligibility of players to represent national teams.
11/03/00
MAE UN BWGAN MAWR yn taflu ei gysgod dros bob chwaraewr pêl-droed, boed yn broffesiynol neu’n amatur, yn seren neu’n ddi-nod. Mae’n gallu taro’n ddi-rybudd ac fe all newid cwrs gyrfa chwaraewr mewn hanner eiliad. Mae yngan y gair yn siðr o yrru ias i lawr cefn nifer o reolwyr hefyd. Y bwgan mawr hwnnw wrth gwrs yw cael anaf.
Gall unrhywun (gan gynnwys fi) sydd wedi methu gêmau oherwydd anaf werthfawrogi’r rhwystredigaeth sydd ynghlwm â’r fath brofiad. I ambell un anffodus mae’n felltith sy’n taro bron iawn mor gyson â mae’n nhw’n cicio pêl. Sgwn i sut mae Jeremy Charles yn teimlo pan ei fod e’n edrych ‘nôl ar ei yrfa - neu hanner gyrfa os cyfrwn ni’r gêmau chwaraeodd e mewn gwirionedd. Yma ar Barc Waun Dew rwy’n cofio adeg pan fyddai cael dwy gêm gefn wrth gefn allan o Colin Pascoe yn lliwiau’r Dre’ yn destun erthygl i’r raglen.
Ond mae digon o enghreifftiau o anffodusion yn dychwelyd ar ôl anafiadau yn well chwaraewyr ambell waith. Wedi’r cwbl mae Steve Jones nôl yn nhîm Abertawe ar ôl anaf ofnadwy ychydig flynyddoedd yn ôl. Bellach mae e’n gonglfaen i un o amddiffynfeydd gorau’r adran. Does dim amheuaeth gen i ‘chwaith y daw Craig Bellamy ‘nôl i fod yn un o sêr y tîm cenedlaethol cyn bo hir. A beth am yr enwog Peter Hughes Griffiths? Fe ddatgymalodd ei benglin un tro mewn gêm fawr rhwng Bargoed Rangers ac Aberaeron. Daeth yr ymgeleddwr i’r maes, rhoi hwp i’w benglin yn ôl i’w le ac fe gariodd ymlaen i chwarae. Wel … dyna’i fersiwn e o’r stori beth bynnag.
Ond yn fwy diweddar mae dau Gymro blaenllaw wedi bod yn y newyddion oherwydd eu hanafiadau - ac am ddau reswm gwahanol. Un am iddo fod eisiau chwarae a’r llall am nad oedd e eisiau chwarae. Tra roedd John Hartson bron â thorri ei fol eisiau ailgydio yn ei yrfa yn Spurs, roedd Sir Alex Ferguson bron â thorri ei fol eisiau sicrhau nad oedd Ryan Giggs yn chwarae i Gymru.
Tra bod un anaf yn bygwth gyrfa Hartson mae rhai yn dweud y dylai anaf Giggs fod yn bygwth ei yrfa rhyngwladol. Yn bersonol mi fyddwn i’n fodlon rhoi un cynnig arall i Giggs. Os bydd e’n dioddef o gêm-gyfeillgaraitis pan fydd y Ffindir yn ymweld â Chymru yna ni ddylai gael y cyfle i chwarae yn erbyn Brasil. Wedi’r cwbwl - fe gurodd Cymru Denmarc a Belarws hebddo fe dan Bobby Gould.
MAE LLE GAN GAERFYRDDIN i ddiolch hefyd. Mae’r garfan wedi bod yn gymharol lwcus gydag anafiadau drwy’r tymor. Does dim angen dweud beth fyddai goblygiadau rhestr anafiadau faith mewn carfan fechan. Ond dyna ni, mae’n siðr bod Tomi Morgan fel pob rheolwr arall drwy’r byd i gyd yn gorfod croesi ei fysedd pan ddaw hi i anafiadau, a gobeithio y bydd y garfan a chanlyniadau’r tîm yn parhau i fod yr un mor iach dros y misoedd i ddod.
12/02/200
AR ÔL TYNNU’R ENWAU ALLAN o’r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd roedd y farn am obaith Cymru i gyrraedd Siapan a Korea yn 2002 yn rhanedig. Rhai yn dweud nad oedd gobaith gan Gymru i guro Norwy, Pwyl na’r Iwcraen heb sôn am deithiau anodd i Belarws ac Armenia. Eraill yn dweud bod absenoldeb un o’r tîmau mawr fel yr Eidal neu’r Almaen yn rhoi cyfle da inni - yn enwedig mewn grðp lle gallai’r holl dîmau ddwyn pwyntiau oddi ar ei gilydd.
Roedd pawb serch hynny’n gytûn bod angen elfen o lwc, ac roedd hynny’n brin pan ddaeth trefn y gêmau allan o’r het ddydd Mawrth. Mae’r farn dal yn dal yn rhanedig. Rhai yn cwyno am y tair gêm agoriadol anodd - i ffwrdd yn Belarws a’r Iwcraen a gartref yn erbyn Norwy. Colli rheiny a bydd y sgrifen ar y mur. Eraill yn mynnu, os gellir cipio buddugoliaeth neu ddwy, gyda phedair o’r chwe gêm olaf gartref mae unrhywbeth yn bosib. Mae’r rheithgor dal mâs ar obeithion Cymru felly a’r gêm yn erbyn Qatar fydd y llinyn mesur nesaf. Ond er mwyn ceisio codi fy nghalon es i edrych am rai ystadegau yn ymwneud â Chwpan y Byd. Ac er cymaint y cwyno am ffawd ein tîm pêl-droed cenedlaethol mae lle gennym ni i ddiolch gan y galle hi fod yn llawer gwaeth arnom ni.
Diolchwch nad y’ch chi’n byw yn Lwcsembwrg. Nhw sydd wedi colli’r nifer mwyaf o gêmau yn holl hanes Cystadleuaeth Cwpan y Byd - 78 allan o 82 gêm. A beth am y Maldives a ildiodd 59 gôl mewn chwe gêm heb sgorio. Ond os o’ch chi’n meddwl bod hynny’n wael, y tîm â’r record amddiffynnol gwaethaf yn Ewrop yw Liechtenstein sy’n ildio 5.2 gôl ar gyfartaledd bob gêm. Y gorau gyda llaw yw Gweriniaeth y Siec (0.6 gôl y gêm). Mae yna 27 tîm yn y byd sydd heb erioed ennill gêm yn y gystadleuaeth (gan gynnwys y rowndiau rhagbrofol). Dyw 15 o’r rheiny heb hyd yn oed gael gêm gyfartal. Gallai, mi allai fod yn waeth.
Ond mae ystadegau yn gallu creu darlun negyddol hefyd, ac mi allai, yn wir mi ddylai, fod yn llawer gwell ar Gymru. Ar hyn o bryd fe saif Cymru yn y 98fed safle yn ‘rankings’ FIFA. Gyda Norwy yn 7fed, Iwcraen yn 26ain, Pwyl yn 32ain, Armenia yn 85ed a Belarws yn 96fed, Cymru yw’r isaf o’r holl dImau yn ein grðp. Yn naturiol felly mae disgwyl i Gymru gyrraedd y rowndiau terfynol yn optimistaidd a dweud y lleiaf. Ond yn waeth na hynny, dim ond chwe gwlad arall yn Ewrop sy’n is na ni - Ynysoedd y Ffaroe, Malta, Lwcsembwrg, Liechtenstein, Andora a San Marino. Yn anffodus, allwn ni ddim disgrifio rheiny fel cewri’r bêl-gron, ac ar sail hynny does dim gwadu lefel y dirywiad a welwyd yng Nghymru o dan Bobby Gould.
Dwi ddim am demtio ffawd a dweud mai dim ond gwella y gall Cymru ei wneud rhwng nawr a Hydref 2001, ond pwy a ðyr, mi fyddai’n braf pe gallai Cymru osod ein hystadegyn newydd ein hunain yn ei le trwy gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am ddim ond yr ail waith mewn 14 ymdrech.
Llyr Hughes Griffiths considers Wales’ World Cup qualification chances.
We have a massive test but our hopes should not be discounted!
05/01/2000
MAE LLAWER O SYLW wedi bod yn y Wasg ac ar y cyfryngau’n ddiweddar i dimau yng Nghynghrair Cymru sy’n troi at chwaraewyr lleol yn hytrach na chario ymlaen i dalu i chwaraewyr oddi ffwrdd. Bu’r newidiadau’n rhai sydyn iawn! Yng ngogledd Cymru, Conwy Unedig yw’r clwb diweddaraf i wneud hyn. Ychydig cyn hynny gwnaeth Tref Caernarfon yr un peth.. Ac wrth gwrs, yma yn ne Cymru, mae Inter Caerdydd erbyn hyn yn dibynnu’n helaeth iawn ar fyfyrwyr Athrof a Caerdydd.
Ar lawer cyfrif, mae hyn yn gwneud synnwyr. Beth ydi’r pwynt i glybiau yng ngogledd Cymru, er enghraifft, wario arian prin ar dîm cyfan o chwaraewyr o Lannau Merswy? A yw pêl-droed yng Nghymru yn elwa mewn unrhyw ffordd? Beth sy’n digwydd i’r pêl-droedwyr ifanc lleol?
Mae’r Prif Gynghrair yn fyd gwahanol i Gynghrair Cymru ar lawer cyfrif. Ac eto, tebyg yw rhai o’r pryderon yn y fan honno. Ar Ðyl San Steffan, nid oedd tîm Chelsea yn erbyn Southampton ar y Dell yn cynnwys yr un Sais nac yn wir unrhyw chwaraewr o wledydd eraill Prydian. Dyma’r tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd! Bu llawer o ddadlau am y digwyddiad ar y cyfryngau ac yn y Wasg. Pa obaith sydd i bêl-droedwyr ifanc brodorol talentog Chelsea os nad oes fawr o gyfle iddynt - hyd yn oed ar y fainc? Ble maent yn mynd i dorri’u dannedd? Sut maent yn mynd i fagu profiad? Beth fydd yn digwydd i Chelsea a thimau eraill ar ôl i’r tramorwyr symud i borfeydd brasach?
Gadewch i ni fod yn berffaith glir ar un peth. Nid dadl sydd yma dros wrthod unrhyw dramorwr rhag chwarae dros glwb yn y Brif Gynghrair nac yn wir unrhyw Sais dros glwb yn y Gynghrair Genedlaethol. Rydym yn llawer mwy eangfrydig a goleuedig na hynny! A byddai’r Gynghrair Genedlaethol yn dlotach heb ambell i Ken McKenna! Ond rhaid wrth synnwyr cyffredin. Beth ydi’r pwynt llanw tîm cyfan â chwaraewyr nad yw’r clwb na’r dre na’r wlad yn golygu fawr o ddim iddynt?
Rhaid rhoi lle i’r talent lleol! Ond ara deg mae dal iâr. Felly, hefyd gyda ieuenctid. Mae’n cymryd amser ac amynedd i’w meithrin a’u datblygu! Nid yw newid cyfeiriad dros nos yng nghanol tymor yn ateb boddhaol o gwbl. Yn y diwedd, nid yw clybiau sy’n mynd ati fel hyn yn gwneud unrhyw gymwynas â’n hieuenctid nac i hygrededd y Gynghrair!
Local talent - albeit in the Premier League or the League of Wales - needs to be nurtured. But there is a time and place to do this and it does not happen overnight. In the long term, a sudden change of policy in mid-season - as witnessed in some clubs recently - does no favours to our youngsters nor to the credibility of our National League.
22/01/2000
UN DYN A’I GI
MAE AMBELL UN sy’n dymuno lladd ar Gynghrair Genedlaethol Cymru’n credu mai’r unig linyn mesur i gynghrair gwerth ei halen yw’r torfeydd sy’n mynd i weld y gêmau bob dydd Sadwrn. Mae’r ffigurau isel sydd wedi nodweddu sawl clwb ers blynyddoedd, a’r storïau arferol am ‘un dyn a’i gi’ wedi bod yn fêl ar fysedd rhai. Ond o gymryd mai proses raddol yw cryfhau’r Gynghrair cyn iddi’n wirioneddol ddod i oed mae’r arwyddion ar hyn o bryd yn argoeli’n eitha’ da.
Yn ddiddorol iawn fe dynnodd y Western Mail ein sylw ni’r wythnos hon at y ffaith mai ar nosweithiau Gwener y ceir y torfeydd mwyaf yn y Gynghrair. Does ond raid edrych ar y gêm arbennig rhwng Llanelli a’r Barri nos Wener diwethaf i danlinellu’r ffaith. Roedd y 1,410 a oedd ym Mharc Stebonheath yn record i’r Gynghrair am y tymor. Un esboniad am apêl nos Wener, wrth gwrs, yw bod y rheiny sy’n chwarae eu hunain ar ddyddiau Sadwrn yn gallu dod i weld y gêmau. Does dim cystadleuaeth ‘chwaith o du gêmau rygbi a’r felltith honno o orfod mynd i siopa. Ar y llaw arall mae’r clybiau’n colli nawdd, felly nid yw’n ateb delfrydol. Gêm nos Wener arall, sef y ‘derby’ lleol rhwng Llanelli a Chaerfyrddin sydd wedi denu’r dorf ail fwyaf am y tymor hyd yn hyn gyda 1,012 yn bresennol. Gyda llaw, mae’n rhaid imi amau’r pedwerydd uchaf, sef ymweliad Caerfyrddin â Hwlffordd ar ddechrau’r tymor oedd â 979 yn honedig yn bresenol. Os felly, mae’n rhaid ‘mod i wedi mynd i weld y gêm anghywir gan nad oedd hi’n ymddangos bod hanner cymaint â hynny yno ar y dydd!
Torf fwya’r tymor hyd yma ym Mharc Waun Dew yw’r 890 oedd yn gwylio Caerfyrddin yn erbyn Aberystwyth yn ddiweddar. Dim ond 74 yn llai na’r 964 oedd yn Exeter ar gyfer ymweliad Abertawe yn Nhlws yr Autoglass yr wythnos diwethaf. Mae’r ffaith bod y torfeydd yma yng Nghaerfyrddin 32% yn uwch na llynedd yn sicr yn adlewyrchu’n ffafriol, nid yn unig ar safle’r clwb yn y tabl ond ar y Gynghrair hefyd.
Yn anffodus, nid yw Caernarfon wedi profi’r un cynnydd o ran torf nac yn wir o ran canlyniadau. Mae nifer y dorf ar yr Oval eleni’n debyg iawn i’r llynedd, yn amrywio o 102 i 366. Ond y gofid mwyaf yno mae’n siðr gen i yw mai nhw sydd ar waelod y Gynghrair ar hyn o bryd. Yr wythnos ddiwethaf sefydlwyd record newydd yn y clwb o fynd un ar ddeg gêm heb fuddugoliaeth. Mae’n siðr bod hynny’n bilsen anodd i’w llyncu, yn enwedig tra bo’r arch-elynion Bangor yn gwneud cystal. Ond efallai bod ‘na wers yn y fan yna. Mae newid rheolwr a mabwysiadu polisi o chwarae bechgyn lleol wedi talu ar ei ganfed i Fangor. Does ond gobeithio y gall Dixie McNeil wneud yr un peth gyda’r Cofis. Efallai wedyn y gwelan nhw’r torfeydd yn dychwelyd.
Yn sicr yma ar Barc Waun Dew, gyda Llanelli, Y Barri ac Aberystwyth (yn y cwpan) i gyd eto i ymweld â ni yn eu tro, mae pob cyfle inni gyrraedd torf o 1,000 am y tro cyntaf. Felly ewch ati a dywedwch wrth eich ffrindiau er mwyn i ninnau wneud ein rhan i gryfhau’r Gynghrair ifanc hon.
Llyr discusses attendances this season in the LoW and the merits of Friday night football. With the likes of Llanelli, Aber and Barry to visit Richmond later thi season, there is every possibility of a 1000 crowd at Town for the first time
08/01/00
TRA BO POB UN OHONOM yn gallu meddwl am ddigon o bethau sy’n gyffredin rhwng trefi Caerfyrddin a Hwlffordd (gan gynnwys cael eu cynrychioli yng Nghyngrair Genedlaethol Cymru), mae ‘na rywbeth arall, tipyn llai cyfarwydd inni, sy’n cysylltu’r trefi hanesyddol hyn.
Mae’n gysylltiad hollol unigryw na all unrhyw dref arall yng Nghymru ei frolio. A dweud y gwir, dim ond 13 tref arall trwy Brydain sydd yn gallu dweud yr un peth. Ac o’r rheini mae’n siðr mai’r un yn Nottingham yw’r enwocaf. Ydych chi wedi dyfalu eto?
Wel, Caerfyrddin a Hwlffordd yw’r unig drefi yng Nghymru gyfan sydd â Siryfion (neu "Sheriffs"). Er gwaethaf statws dinasoedd fel Caerdydd ac Abertawe, ac er gwaethaf cyfoeth hanesyddol tref fel Caernarfon, ‘does unman arall yng Nghymru all ddweud bod ganddynt Siryf yn cynrychioli’r dref.
Yn achos Caerfyrddin gellir olrhain hanes y Siryf yn ôl i’r canol oesoedd. Bryd hynny roedd yn ffigwr pwysig a phwerus iawn, nid yn unig yn y dref ond dros y Fwrdeistref gyfan. Ymhlith ei ddyletswyddau byddai bod yn gyfrifol am ddatrys unrhyw anghydweld am berchnogaeth tiroedd freehold yn y dref. Erbyn heddiw, wrth gwrs, mae’r gyfraith wedi mabwysiadu’r cyfrifoldebau a fu gan y Siryf gan adael y Siryfion modern â dim byd ond rôl seremonïol i’w chyflawni.
Yng Nghaerfyrddin, fel yn Hwlffordd, fe etholir y Siryf o blith Cynghorwyr y Dref, ac mi fûm i’n ddigon ffodus i dderbyn y fraint honno eleni. Golyga hynny fy mod yn mynychu amrywiaeth eang iawn o ddigwyddiadau cyhoeddus gan ddirprwyo ar ran y Maer a’r Dirprwy Faer ar achlysuron arbennig.
Dim ond unwaith y flwyddyn y bydd y 15 Siryf sydd yng Nghymru a Lloegr yn dod at ei gilydd, a hynny i fynychu cynhadledd flynyddol Cymdeithas Siryfion Trefi a Dinasoedd Cymru a Lloegr. Bryd hynny bydd cannoedd o gyn-Siryfion yn ymuno â nhw, ac yn y gynhadledd ddiwethaf fe dderbyniwyd y gwahoddiad i ymweld â Chaerfyrddin yn 2002. Bydd hyn yn dod â manteision economaidd amlwg i’r dref gyda tua dau gant o bobl yn ymweld â’r ardal ac yn lletya yng Nghaerfyrddin. Pobl fel Siryfion Caergaint, Norwich, Rhydychen, Caer, Lincoln, Lichfield ac wrth gwrs yr enwog "Sheriff of Nottingham."!
Mi fyddai’n braf petai gêm Caerfyrddin yn erbyn Hwlffordd yn 2002 yn cael ei chwarae ar benwythnos y gynhadledd honno. Yn wir, yr unig obaith sydd gan Gaerfyrddin o chwarae un o’r trefi eraill sydd â Siryf yw trwy gyrraedd Ewrop. A braf sylweddoli mai o’r holl drefi hynny yng Nghymru a Lloegr, Clwb Pêl-Droed Caerfyrddin sydd agosaf at gyrraedd y nod honno!!
Llyr highlights that Carmarthen and Haverfordwest are the only two towns in Wales, out of 15 in Britain, that appoint Sheriffs. In 2002, the annual Sheriffs Conference will meet in Carmarthen. Llyr suggests that it would be fitting for the Carmarthen v Haverfordwest fixture that year to coincide with this event.
Llyr, of course, is Carmarthen’s Sheriff this year.
27/12/99
PAN GYHOEDDWYD RHAGLEN gêmau Caerfyrddin am y tymor hwn mae’n siðr bod y rhan fwyaf ohonom ni wedi mynd i chwilio’n syth am ddyddiad ymweliad Aberystwyth â Pharc Waun Dew.
Gyda rhwystredigaeth sgôr y gêm llynedd mae blwyddyn wedi bod yn amser hir i aros am gyfle i dalu’r pwyth. Ar lefel bersonol, mae’r gêm heddiw yn erbyn yr hen elyn yn gyfle imi setlo dyled ariannol arbennig.
Awst 1998 oedd hi. Roedd hi’n hwyr yn y nos, a finnau’n eistedd mewn cornel dywyll o’r Hen Lew Du yn Aberystwyth. Gyda phawb yn cyfri’r dyddiau cyn dechrau’r tymor newydd fe heriais un o gefnogwyr mwyaf selog Aber y byddai Caerfyrddin yn gorffen yn uwch na nhw yn y Gynghrair ar ddiwedd y tymor. Fe aeth hi’n drafodaeth hir ac ar ôl peint neu ddau fe gytunodd Tomski a minnau ar fet o £20.
Doedd dim rhaid aros yn hir cyn y gêm chwe phwynt cyntaf. Ar ôl i Gaerfyrddin golli’r gêm agoriadol yn erbyn Cwmbran a churo Inter Cable-Tel ar eu tomen eu hunain yn yr ail gêm, daeth Aber i Barc Waun Dew. O fewn deg munud roedden nhw 3-0 ar y blaen a gyda sgôr derfynol o 5-2 roeddwn i’n gwybod yn fy nghalon y byddai’n rhaid imi ymadael â’r £20 ar ddiwedd y tymor.
Ers hynny wrth gwrs mae John Mahoney wedi mynd, ynghyd â’r rhan fwyaf o’r tîm - Dai Morgan, Stephen Evans, Steve Williams, Rhodri Thomas, Tony Rees â’r anfarwol Colin Loss. O’r un ar ddeg chwaraeodd i’r dre y diwrnod hwnnw dim ond David Barnhouse, Nigel Nicholas, Paul Burrows a Wyn Thomas sy’n dal yma. Fe chwaraeai Ryan Nicholls i Aber bryd hynny, a gydag un arall o arwyr Coedlan y Parc nawr wrth y llyw yma yng Nghaerfyrddin, mae pethau ar i fyny.
Un o’r rhesymau am hynny yw partneriaeth Robert Fitzgerald, David Barnhouse, Mathew Cable a Wyn Thomas yn y cefn - un o’r goreuon yn y Gynghrair. Mae’r ystadegau’n dweud y cyfan. Fe ildiodd Caerfyrddin fwy o goliau yn nwy gêm gartref gynta’r tymor diwethaf nag yn yr holl gêmau sydd wedi eu chwarae gartref hyd yn hyn y tymor hwn. A heblaw am blip Parc Stebonheath yn gynharach eleni, y Dre’ sy wedi ildio lleiaf o goliau yn y Gynghrair i gyd. A gyda dewis o Nicholls, Parker, Burrows, Delicate, Meredith a Tomi yn y rheng flaen, does dim prinder goliau chwaith.
Felly Tomski, beth am "double or quits" bach eleni? Mae’n hen bryd i Gaerfyrddin roi stwffad (sori am y pyn Nadoligaidd) i Aber. Un peth sy’n saff, does dim amheuaeth y bydd hon yn gracyr o gêm!
In today’s Welsh article, Llyr savours the possibility of regaining his £20 bet about the outcome of our local Derby. Unfortunately, last season he underestimated the Seasiders’ goalscoring power and lost out to his Aber chum, Tomski!
11/12/99
UFFERN AC YN ÔL!!
PWY FYDDE ISHE bod yn rheolwr Cymru ar ôl i’r enwau ddod mâs o’r het ddydd Mawrth? Os oedd tasg anodd yn wynebu Mark Hughes cyn yr wythnos hon mae’n waeth o lawer nawr. Pedwar trip hir ac anodd i Ddwyrain Ewrop ac un i oerfel Scandinafia.
Dim gêm i ddenu hawliau teledu a dim gêm i ddenu torfeydd i chwyddo’r cyfrif banc. Dim trip i’r haul ar gyfer y cefnogwyr. Dim gêm hawdd yn erbyn San Marino neu Ynysoedd y Ffaro i sicrhau o leiaf chwe phwynt. A dim gobaith denu chwaraewyr newydd sydd â chysylltiadau amheus â Chymru i rengoedd y tîm!
Gyda Solskjaer a Flo yn eu rheng flaen bydd sicrhau pwyntiau yn erbyn Norwy yn dipyn o gamp. Profiad newydd, sydd ddim yn rhywbeth i edrych ymlaen ato, fydd chwarae’r Iwcraen ac Armenia am y tro cyntaf. Mae Pwyl efallai ychydig yn fwy cyfarwydd inni, ond fe gofiwn yn fwyaf diweddar iddyn nhw roi braw i Lloegr yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2000. Ac yn olaf Belarws a wthiodd Cymru i’r eithaf yn y ddwy gêm ddiwethaf.
Mae ambell un eisioes wedi dweud y gall Cymru anghofio am Gwpan y Byd 2002 ac mae’n anodd gweld sut y gellir dadlau yn erbyn hynny. Gwneud Cymru’n anodd i’w curo yw nod Mark Hughes medde fe. Does dim prawf anoddach i unrhyw dîm na gorfod teithio i berfeddion dwyrain Ewrop, chwarae ar gaeau eilradd yn erbyn rhai o’r timau mwyaf trefnus a thechnegol yn y byd, a dod oddi yno â phwynt. Yn enwedig os yw’r garfan yn frith o chwaraewyr ifanc sy’n cael eu meithrin ar gyfer Ewro 2004.
Pwy bynnag fydd yn chwarae yn y gêm gyntaf yn yr hydref mae un peth yn sicr. Unig nod Cymru yn y rowndiau rhagbrofol yma fydd gorffen yn drydydd. Er y gall Belarws ac Armenia gipio pwyntiau oddi ar unrhywun ar eu dydd, bydd y ddwy gêm yn erbyn Pwyl ymhlith y rhai mwyaf tyngedfennol y bydd Cymru yn eu chwarae yn y deng mlynedd nesaf. Ennill ac fe allwn ddisgwyl gwell cyfle i gyrraedd Ewro 2004. Colli ac mi fydda i’n gorfod ysgrifennu’r erthygl hon eto mewn pedair mlynedd.
In this week’s Welsh article, Llyr Hughes Griffiths considers Wales’ prospects in the qualifying campaign for World Cup 2002 following last Tuesday’s draw in Tokyo. Wales are in a tough group and getting through to the 2002 finals in Japan and South Korea will be a mammoth task. Moreover, the draw is not attractive financially to Wales.
Wales have been placed in Group 5, together with Norway, Ukraine, Poland, Armenia and Belarus.
27/11/99
CAWSOM LYTHYR YN DDIWEDDAR oddi wrth Iwan Evans, Swyddog Maes newydd Menter Iaith Bro Myrddin yn holi pa ddefnydd a wneir o’r Gymraeg yn CPD Caerfryddin. Prif waith Iwan yw hybu ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn ardal y Fenter. Wrth ddymuno’n dda i Iwan yn ei swydd mae’n braf nodi fod defnydd cynyddol o’r iaith yn ein Clwb - ond nid da lle gellir gwell, wrth gwrs!
Ac o sôn am y Gymraeg, clybiau eraill yn y Gynghrair, ar wahân i’r Dre, a ddaw’n syth i’r meddwl, yw Caernarfon, Aberystwyth a Llanelli, a’n hymwelwyr ni heddiw, Bangor. Byddid yn disgwyl clywed yr iaith ar waith yn y clybiau hyn i gyd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. A Dinas Bangor sy’n hawlio sylw y dyddiau hyn oherwydd newydd ei gyhoeddi y mae C’Mon Reff (Gwasg Gwynedd -Cyfres y Cewri 20 - £6.95), sef hunangofiant Gwyn Pierce Owen, llywydd y Clwb.
Dyma gyfrol hynod o ddifyr lle cawn hanes Gwyn y Prifathro, y Dyn Busnes, y Tori, y Reff, a’r Cymro. Gwelwn fel y dringodd Gwyn - a anwyd, gyda llaw, ym Mhenbedw (yng nghanol y Sgowsars!) - i’r uchelfannau fel dyfarnwr yn y Football League. Ac o ddiddordeb arbennig i ni yn ne Cymru yw ei brofiadau’n dyfarnu gêmau yn y Welsh League South! Cawn ddeall fel y mae’n ffan mawr o West Bromwich Albion , yn uchel ei barch at Brian Clough, a sut y gwnaeth gamsyniad yn Old Trafford un tro! Mae’r llyfr yn dwyn i gof amryw deithiau a wnaeth Gwyn dros y môr yn cynrychioli Cymru fel dyfarnwr a llumanwr a sut y dangosodd un tro gerdyn melyn i neb llai na George Best yn yr Unol Daleithiau! Cawn glywed hefyd am gampau Dinas Bangor yn Ewrop, y llwyddiannau cynnar ar ôl ymuno â Chynghrair Cymru ac yna’r cyfnod o siom ac ansicrwydd. Er nad yw Gwyn yn gadeirydd a chyfarwyddwr bellach, mae’n dal yn benderfynol o wneud ei ran i godi Bangor i’r brig unwaith eto! Ie, llyfr diddorol dros ben a hawdd ei ddarllen a llawer o ddiolch i’r Monwysyn amdano! A hefyd i Gwyn Llywelyn a fu’n croniclo’r hanes. Bydd yn siðr o apelio at lawer o gefnogwyr y bêl-gron ledled Cymru. Felly, cofiwch alw yn Siop y Pentan am eich copi a hynny mewn da bryd ar gyfer y Nadolig!!
Ond nid Gwyn yw’r unig un ar Ffordd Farrar a all honni lle yn ein llên! A wyddech chi fod un o brifeirdd Cymru, neb llai na Tudur Dylan Jones, a gafodd ei godi ym Mangor ond sydd bellach yn byw yng Nghaerfyrddin, wedi cyfansoddi englyn i Meirion Appleton, rheolwr Dinas Bangor! Dyma’r englyn i chi :
Y mae ein holl chwaraeon - heddiw’n iach
A’i ddawn ef sydd ddigon,
Hwn gawr ar waith â’r bêl-gron
Am mai arwr yw Meirion!
Gwn fod Meirion yn trysori’r englyn hwn. Ac felly y dylai oherwydd, hyd y gwn i, dim ond un person arall o fyd pêl-droed a fu’n destun cerdd o fawl gan Tudur Dylan a hwnnw yw Ryan Giggs! Ond, ar ôl y gêm heddiw, efallai y bydd yn rhaid i’r Prifardd ystyried ychwanegu trydydd enw at ei restr - ie, Tomi Morgan, rheolwr Tref Caerfyrddin! Cawn weld!
Today’s Welsh Article mentions the letter received from Iwan Evans, Field Officer of the recently established Menter Bro Myrddin, enquiring about the use of Welsh at Carmarthen AFC. The aim of the Menter is to promote the use of Welsh in every aspect of day to day life. The article goes on to discuss the recently published Welsh language autobiography of Gwyn Pierce Owen, ex Bangor City chairman. It also quotes a poem in praise of City manager Meirion Appleton by Carmarthen-based poet of national renown, Tudur Dylan Jones
23/10/99
PEN TOST YN AML I OLYGYDDION yw dod o hyd i newyddion ac eitemau amrywiol ar gyfer eu rhaglenni pêl-droed, yn enwedig os oes gêmau cartref yn dilyn ei gilydd yn agos!! Bryd hynny, gall y pen tost droi’n feigryn! Yn ffodus iawn, mae rhywun yn gallu pori mewn papurau fel y Western Mail, The Weekend Sporting ac, ambell waith - os yw rhywun yng nghyffiniau Aberystwyth neu Lanfair-ym- Muallt - y Daily Post! Ffynhonnell arall hynod o werthfawr yw’r We oherwydd daw stôr o bethau i’n sylw drwyddi. Ond, yn arbennig yn awr,, mae cyhoeddiad arall, sef Newyddion y Gynghrair Genedlaethol, yn gymorth mawr!
Mae’r Newyddion, - sydd yn ymddangos yn wythosol, - wedi gwella’n aruthrol y tymor hwn, ac yn cynnwys pob math o wybodaeth amrywiol am y Gynghrair Genedlaethol. Ceir ynddo wahanol erthyglau ar bynciau llosg y dydd ynghyd â manylion a data am y gêmau a’r timau, y chwaraewyr a’r sgorwyr o wythnos i wythnos.
Dyma lyfryn gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer unrhyw olygyddion. Nid ydym ni yng Nghaerfyrddin yn eithriad ac y mae’r Newyddion yn un rheswm pam yr ydym wedi mentro codi nifer y tudalenau yn ein rhaglen yn ddiweddar.
Trowch at y Newyddion ac fe ddowch ar draws llawer o wybodaeth ddiddorol. A wyddech chi, er enghraifft, fod 16 o chwaraewyr a arferai chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol bellach yn perthyn i glybiau yn y Brif Gynghrair neu yng Nghynghrair y Nationwide? Dyma nhw i chi :
Mark Ovendale (Y Barri gydag AFC Bournemouth); Mark Delaney (Caerfyrddin gydag Aston Villa); Gareth Hanmer (Y Drenewydd gyda’r Amwythig); Mark Williams (Y Drenewydd gyda Watford); Peter Wilding (Y Drenewydd gyda’r Amwythig); Gary Jones (Caernarfon gyda Rochdale); Tony Bird (Y Barri gydag Abertawe); Graham Evans (Caersws gydag Aston Villa); Andy Cooke (Y Drenewydd gyda Burnley); Eifion Williams (Y Barri gyda Torquay); Marc Lloyd Williams (Bangor gyda Chaer Efrog); Andy Evans (Aberystwyth gyda Barnsley); Hugh McCauley (Conwy gyda Cheltenham); Jamie Hughes (Crwydriaid Cei Conna gyda Cherdydd); Tommy Mutton (Bangor gydag Abertawe) a John Leah (TNS/ Y Drenewydd gyda Darlington).
Gyda’r fath gynnwys, does dim rhyfedd fod y Newyddion fel ‘manna o’r nefoedd’ i olygyddion rhaglenni pêl-droed. Diolch i’r golygydd diwyd Mel ap Ior Thomas a’i gynorthwy-ydd David Rapson, Golygydd Rhaglen CPD Cei Conna, am eu gwaith campus. Un awgrym, fechgyn! Nawr bod y Newyddion ar dir cadarn, beth am sefydlu tudalen neu golofn Gymraeg? Byddai hyn yn gam pwysig a werthfawrogid gan lawer ohonom! Beth amdani?
This weeks’ Welsh Article discusses the content of the LoW News that is published every week and includes essential content for all programme editors. The News is much improved on last season and has up-to-date information and data on the LoW scene. Vince James ensures that players and officials of Carmarthen Town AFC are issued with copies of the News on a weekly basis. Our Club figures prominently in it, thanks to the efforts of Vince in co-operation with our Chairman Jeff Thomas and our Secretary Alan Latham.
25/9/99
ROEDD YMDDANGOSIAD PAT JENNINGS yr Ieuaf yn y gôl i’r Dre yn erbyn CEI CONNA ddydd Sadwrn diwethaf yn dwyn i gof gampau anhygoel ei dad enwog o’r un enw. Ganed Pat Jennings y tad, yn Newry ym 1945, a fe sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau dros Ogledd Iwerddon (119) . Yn wir, am bedair blynedd, daliai record y byd am y nifer mwyaf o gapiau rhyngwladol nes i Peter Shilton ragori ar hyn yng Ngêmau Terfynol Cwpan y Byd ym 1990 (gan ennill 125 erbyn y diwedd). Dyma’r unig gôl-geidwad yn y dwthwn hwn i chwarae dros Tottenham ac Arsenal. Mae hefyd yn un o garfan fechan o gôl-geidwaid i sgorio gôl gyda chic o’i ddwylo - ym 1997 pan oedd yn chwarae i Spurs yn y gêm yn erbyn Manceinion Unedig am y Darian Elusennol. Nid rhyfedd i Trevor Brooking mewn cyfrol a gyhoeddodd ei gynnwys ymhlith ei ddewis o gant o chwaraewyr gorau Gwledydd Prydian!
Ac wrth drafod y ddau Jennings, mae rhywun hefyd ym meddwl am feibion a thadau eraill sy’n chwarae rhan bwysig yn y gêm broffesiynol y dyddiau hyn. Dyma i chi Jordi Cruyff, Manceinion Unedig (mab Johan Cruyff), Frank Lampard yr Ieuaf, West Ham United (mab Frank Lampard yr Hynaf), Paul Dalglish, Norwich City (mab Kenny Dalglish), Ian Walker, Tottenham Hotspur (mab Mike Walker), Gavin Strachan, Coventry (mab Gordon Strachan), Scot Gemmill, Everton (mab Archie Gemmel), Stephen Clemence, Tottenham Hotspur (mab Ray Clemence) a Jamie Redknapp, Lerpwl (mab Harry Redknapp) , i enwi rhai. Yma yng Nghymru, wrth gwrs, mae Darren Ferguson (mab yr enwog Syr Alex) newydd ymuno â Wrecsam ar ôl gorffen gyda Sparta Rotterdam. A thros y blynyddoedd ni fu’n cenedl ni’n brin o feibion a thadau disglair yn y gêm, e.e. Jeremy Charles (mab Mel) a Dean Saunders (mab Roy). Ac yn nes adre, yma yng Nghaerfyrddin, tad a mab go adnabyddus a ddisgleiriodd i’r Dre oedd Harold Harding a Peter Harding. Cofiwn hefyd fod o leiaf un enghraifft ddiweddar o dad a mab yn chwarae yn yr un tîm, sef Peter Price a Wayne Price! Tybed ai cyd-ddigwyddiad yw’r cyfan - neu a oes rhywbeth yn y gwaed a’r genynnau?!
Wel, yn ôl at Pat Jennings yr Ieuaf ac, yn anffodus, byr iawn fu ei arhosiad gyda ni gan iddo ddychwelyd i Lundain yr wythnos hon ar ôl i’w gyfnod ar brawf gyda Dinas Caerdydd ddod i ben. Beth bynnag am hynny, rydym i gyd yn dymuno’n dda iddo i’r dyfodol. Teitl hunangofiant Dai Davies, gôl-geidwad enwog arall o Lanaman, yw Hanner Cystal â Nhad, ac os bydd ‘Pat y mab’ hanner cystal - neu hyd yn oed chwarter cystal - â ‘Pat y tad’, yna fe fydd yn dipyn o chwaraewr!
Pate Jennings Junior’s appearance in goal for the Town last week reminded us of the tremendous feats of his famous father, Pat Jennings Senior, who won a record number of caps for Northern Ireland. Also, examples of ‘son and father’ involved in present day football come readily to mind and some of these are listed in the article. In Wales, we remember examples such as Jeremy and Mel Charles, Dean and Roy Saunders. Here in Carmarthen, many will recollect the contribution made by Harold Harding and Peter Harding for the Town. In more recent times, father and son - Peter Price and Wayne Price - have donned the Town shirt for the same team.