
O GWMPAS WAUNDEW
Mae'r tudalen yn trafod gwahanol agweddau ar
bêl-droed sy'n digwydd bod yn y newyddion ar y pryd, gan ystyried perthnasedd
hyn i sefyllfa Clwb Pêl-droed Caerfyrddin.
CAM
CURTIS – Neil Rosser
O’R DIWEDD FE GAS yr elyrch
wared o’r dyn ofnadwy yna Tony Petty ac i filoedd o gefnogwyr fel fi roedd y
rhyddhad yn debyg i gael gwared o ddant pwdr neu ‘Hang over’ styfnig. Yn
anffodus er ymdrechion campus Addison i sicrhau dyfodol i Abertawe yn y
drydedd adran y tymor nesaf a dylanwad positif Mel Nurse oddi ar y cae ma
Petty wedi niweidio’r clwb ac un o’r rhai sydd wedi diodde waethaf yw Alan
Curtis. ‘Rwyn cofio’r gêm gyntaf i fi’i gweld ar y Vetch yn glir. ‘Roeddwn
wedi gweld gemau rygbi di-ri ond arhosodd nhad nes mod i’n ddeng mlwydd oed
cyn mynd â fi i weld Abertawe v Southend yn nhymor 1974. Erbyn hyn rwyn deall
y rhesymau pam, roedd torfeydd rygbi yn hen, yn dawel ac yn ddiflas, roedd y
North Banc ar y llaw arall yn ifanc, yn swnllyd ac yn wyllt, lot yn fwy
diddorol i grwt 10 mlwydd oed. Fe sgoriodd Curtis yn y gêm honno ac fe wedodd
cefnogwr oedd yn sefyll drws nesaf i fi. “He’s our best player ,but”, a dyna
fe, fe ges i fy arwr. Crwt o Gwm Rhondda yw Curtis ac
fe ymunodd ag Abertawe yn 1972 er bod Spurs hefyd wedi dangos diddordeb
ynddo. Dros y chwe tymor oedd i ddilyn fe chwaraeodd 244 gêm a sgorio 98 o
gôliau Cynghrair a Chwpan. Erbyn hyn roedd ei ddoniau yn
denu edmygwyr o glybiau mawr ac yn 1979 fe ymunodd â Leeds ond yn anffodus ni
chafodd talent y Cymro ei werthfawrogi gan “dirty Leeds” a dim ond pump gôl
mewn 28 ymddangosiad a gafwyd ac ar ôl dau dymor yn unig fe ddaeth Tosh â’m
harwr ni adref. Hwn oedd oes aur yr elyrch, yr hen ail adran, 18,000 yn gwylio, Tosh
wrth y llyw, Curtis a Robbie James yn bango nhw mewn o bobman a pasties ffres
o Eynons am 25c ar gael y tu ôl y North Banc. Dyrchafiad wedyn a’r ‘Swans’ yn
curo Lerpwl ar y Vetch i fynd i frig yr hen adran gyntaf ac Alan Curtis yn
sgorio 21 gôl mewn 57 ymddangosiad yn ei ail gyfnod gyda’r clwb. Wedyn y cwymp a Curtis yn cael
ei werthu i Southhampton ac yna i ryw sbwriel o dîm sydd yn ‘whare mewn glas
ble chwaraeodd 125 gêm ond sgorio dim ond deg gôl, roedd yr aderyn gwyn yn
amlwg yn agosach at galon Curtis na’r aderyn glas. Fe ddaeth adre unwaith yn
rhagor am y swm pitw o £8000, erbyn hyn yn 36 mlwydd oed ond fe wnaeth chware
26 gêm cyn rhoi’r ffidil yn y to. Fe ddechreuodd Curtis ar yrfa
hyfforddi fel is-reolwr i elyrch Alan Cork ac yna fel partner i John Hollins
yn ystod tymor 1999-2000 pan enillwyd pencampwriaeth y drydedd adran.
Cyfraniad enfawr dyn tawel a bonheddig sy’n dal i wrthod dweud yr un gair cas
am Glwb Pêl-droed Abertawe. FE WELSOM NI CURTIS ar Barc Waundew mewn gêm gyfeillgar
ar ddechrau’r tymor yn annog ei elyrch ifanc yn erbyn taclo cadarn
Caerfyrddin. Fi’n mawr obeithio y bydd yn dychwelyd i wasanaethu’r Swans ‘to
rhywbryd yn y dyfodol. Un peth sydd yn sicr, ‘sneb yn deall clwb Abertawe fel y Jac o Gwm
Rhondda.
R. ALUN EVANS
NOSON I’W CHOFIO oedd 12 Hydref 1977. Lerpwl:
Cymru’n chwarae ‘gartref’ yn erbyn yr Alban.
Dyna chi – gêm dwrn Joe Jordan, a Chymru’n colli 2-0. Ond nid y sgôr a’i gwnaeth hi’n noson I’w
chofio. ‘Roeddwn i yn Anfield yn sylwebu yn Gymraeg ar y radio, a hynny’n
digwydd am y tro cyntaf erioed mewn gêm ryngwladol. Cyn mentro arni yr oeddwn wedi treulio rhai misoedd
yn ymarfer gan fynd o gêm i gêm yn dweud beth oedd yn digwydd, yn creu
darluniau yn y dychymyg ac yn cyfarwyddo â thermau oedd, bryd hynny, yn lled
anghyfarwydd – llumanwr, blwch cosbi, cwrt chwech, trawst, tacl-lithro,
egwyl, cylch canol, ystlys, cic o’r smotyn
… gan wybod bod raid plannu’r eirfa ym meddwl gwrandawr oedd cyn hyn
yn darllen termau Saesneg ac yn clywed termau Saesneg am bêl-droed. Wedi’r cyfan ‘roedd y sylwebaeth Saesneg
gyntaf ar gêm bêl-droed wedi dod o Highbury, cartref Arsenal, ‘n ôl ym 1927. Do, fe gymerodd hi hanner canrif union i ni ddala
lan yng Nghymru. Bellach, mae
sylwebaeth Gymraeg yn beth hollol naturiol I wrandawyr radio a gwylwyr
teledu. Rwy’n hynod o falch bod rhai clybiau pêl-droed, fel
Caerfyrddin, yn ogystal â chlybiau rygbi (ac onid dylanwad Carwyn James sy’n
golygu bod Llanelli yn defnyddio’r iaith ar y sgorfwrdd?) yn rhoi lle amlwg
i’r Gymraeg yn eu rhaglen. Yr ymwelwyr heddiw yw Bangor. Fe fûm i’n sylwebu’n
gyson o faes Heol Farrar yn y ddinas honno.
Un o’r uchafbwyntiau oedd ymweliad Atletico Madrid â Bangor, a churo
Blackpool yn rowndiau cynnar Cwpan Lloegr yn yr wythdegau. Fe fûm i’n sylwebu hefyd o Belffast, Parc Hamden,
Prâg, Cologne, Georgia … ac o Wembley lawer gwaith. Y tro ola y bûm i yno oedd ym mis Mai 1984 pan chwaraeodd
Bangor yn erbyn Northwich Victoria yn rownd derfynol Tlws Lloegr. 1-1 oedd
hi. A Bangor yn colli 2-1 ar gae
Stoke City y nos Fawrth ganlynol. Ac
ar y cae hwnnw y daeth fy nghyfnod innau fel sylwebydd pêl-droed i’w derfyn. DYDDIAU DA, DYDDIAU DIFYR. Ac, yn eu ffordd, dyddiau
arloesol. Mae R Alun Evans yn gyn-Bennaeth y BBC ym Mangor. Mae’n ddarlledwr o’r radd flaenaf yn y ddwy iaith. Erbyn hyn, mae’n byw yng Nghaerdydd ac yn Weinidog gyda’r Annibynwyr yng Nghaerffili. Diolch yn fawr iawn iddo am gyfrannu i’n rhaglen. EIDALWYR BARGOD RANGERS – Peter Hughes
Griffiths
Wyddech chi fod tîm pêl-droed Bargod Rangers (Dre-fach, Felindre) wedi chwarae yn erbyn timau o’r Eidal a’r Almaen ‘nôl ym mhedwardegau’r ganrif ddiwethaf, ac yn fwy na hynny mai i dîm Bargod Rangers y chwaraeodd yr Eidalwyr a’r Almaenwyr cyntaf yn y wlad hon? Mae hyn yn berffaith wir! Cyn bod sôn am Carlo Cudicini yn Chelsea a Bergkamp yn
Arsenal roedd Eidalwyr ac Almaenwyr yn chwarae yng Nghynghrair Ceredigion dros
Bargod Rangers. ‘Sut yn y byd y digwyddodd hyn?’, meddech chi. Wel, ym mhentref bychan Henllan ar lan yr afon Teifi roedd
gwersyll Carcharorion Rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gan ei fod yn wersyll agored roedd y
carcharorion o’r Eidal a’r Almaen yn mynd allan yn ystod y dydd i weithio ar
y ffermydd ac yn y pentrefi cyfagos.
Roedd y carcharorion i gyd yn fechgyn ifainc heini, ac yn naturiol (yn
enwedig yr Eidalwyr) yn ddwl am bêl-droed ac yn chwaraewyr medrus iawn. A chan nad oedd pêl-droed tîm Bargod
Rangers ond rhyw bum can llathen o’r gwersyll, ar yr ochr hon o Afon Teifi,
yn naturiol roedd cyfle i’r carcharorion chwarae yn erbyn Bargod Rangers, a
thimau lleol eraill. Ond, er cystal oedd safon pêl-droed y timau lleol fe
fyddai’r Eidalwyr a’r Almaenwyr yn nhîm y gwersyll yn rhoi ‘stwffad’ dda i’r
holl dimau. Mae cof plentyn gen i o
weld rhai o’r gêmau hyn ambell noswaith braf o haf. Nid oedd cit pêl-droed gan y carcharorion, wrth gwrs, ac felly
roedden nhw’n benthyca hen esgidiau a daps y bechgyn lleol a bron bob amser
yn chwarae yn eu trowsusau a’u crysau pob dydd. Rwy’n cofio’n dda eu bod nhw’n curo pob tîm lleol yn
rhacs. Roedden nhw’n chwaraewyr
dawnus iawn. O ganlyniad, fe arwyddodd tîm y Bargod Rangers nifer dda
o’r carcharorion i chwarae drostyn nhw, a dyma pryd y chwaraeodd bechgyn o’r
Eidal a’r Almaen dros dîm yn ein gwledydd ni am y tro cyntaf erioed. Wel, rwy’n hoffi meddwl hynny, beth
bynnag! Ie, cyn i Ravanelli a
Carbonni gael eu geni roedd rhai o’u cyn-deidiau wedi chwarae dros glwb bach
Bargod Rangers ar lannau’r Teifi. Mae un o aelodau gweithgar Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin
yn fab i un o’r carcharorion rhyfel rheiny o’r Eidal. Fe arhosodd ei dad yn yr ardal a phriodi â
merch leol. Mae’r ddau’n dal i fyw
yng Nghastellnewydd Emlyn. Pa un o
fechgyn ein clwb ni sydd ag enw Eidalaidd? DILWYN JONES
Faint o ddylanwad gafodd eich man geni ar eich bywyd? Yn
wahanol i lawer, rwy’n fodlon cyfaddef mae “ychydig iawn” fyddai fy ateb i.
Mi wnes i fy ymddangosiad cyntaf yn yr hen fyd yma ar Ionawr 13eg. 1955 yn un
o drefi Seisnig y gogledd ddwyrain – Cei Conna! Roedd fy nhad yn weinidog
mewn Capel Cymraeg yn y dref honno, a’r unig dystiolaeth sydd gennyf fy mod
wedi fy ngeni yn y rhan honno o’r wlad yw gwrando ar atgofion hapus fy rhieni o’r cyfnod, a’r cyfeiriad ar fy nhystysgrif geni. Does gen i ddim
côf o gwbl o’r cyfnod gan i ni fel teulu symud o’r ardal pan oeddwn yn dair
oed. Ychydig o amser felly i adael unrhyw fath o ddylanwad arnaf, ond digon i
ganu cloch pan ofynnodd Alun Charles am erthygl i’r rhaglen heddiw! Mae ymweld â’r Waun Dew yn brofiad pleserus i bob
gohebydd, gyda chroeso’r swyddogion yn dwymgalon bob amser. Mae uchelgais y
clwb yn amlwg i bawb, gyda’r datblygiadau ar y cae ac oddi arno dros y
blynyddoedd diwethaf yn syfrdanol. Un o nifer o gyfeillion y byddaf bob amser yn falch o’i weld ar fy
ymweliadau yma yw Gwyn Davies, cyn-reolwr Ffatri Laeth Felin-fach, a symudodd
o Ddyffryn Aeron i Beniel rhyw dair blynedd yn ôl. Yn anffodus, mae Gwyn yn
dioddef ers sawl blwyddyn bellach o’r afiechyd, ‘multiple sclerosis’, ac wedi
ei gaethiwo i gadair olwyn. Bu cyfraniad Gwyn i ddatblygiad pêl-droed i blant
ac ieuenctid yn Ne Ceredigion yn aruthrol, gan redeg tîm dan 11 Felin-fach,
yn ogystal â bod yn ysgrifennydd Cynghrair Mini-Minors De Ceredigion am
flynyddoedd. Er gwaethaf ei salwch, gwn fod Gwyn, yng nghwmni ei wraig Wendy,
yn cael pleser mawr o wylio’r gêmau yma ar y Waun Dew. I mi’n bersonol, mae cystadleuaeth Cwpan Cymru yn frith o
atgofion cofiadwy o gyfnod yr arddegau .Un o’r achlysuron cofiadwy
hynny oedd cael prynhawn i
ffwrdd o’r ysgol i weld Aberystwyth yn curo Henffordd ym 1972 o flaen torf o
2,000 ar Goedlan y Parc, a hynny o fewn ychydig wythnosau i fechgyn Colin
Addison guro Newcastle United yn y gêm anhygoel honno yng Nghwpan yr FA.
Roedd gêm Aber yn erbyn Caerdydd yng Nghwpan Cymru yn 1969 o flaen torf o
4,000 hefyd yn achlysur bythgofiadwy, gyda’r daith ar y trên i’r Cae Ras i
wylio Aberystwyth yn erbyn Wrecsam yn ddigwyddiad cynhyrfus arall. Doedden
nhw’n ddyddiau da! Mi ddylai’r gêm Gwpan y prynhawn yma ar y Waun Dew gynnig digon o gyffro i ddiddori’r dorf, ac i gadw gohebydd y BBC yn brysur! Cei Conna yn hedfan yn agos i frig y Gynghrair a Chaerfyrddin yng nghanol tymor ardderchog arall. Mi fydd tim Tomi yn falch o’r fantais o gêm gartref rwy’n siðr, ac mae gen i deimlad mai enw Caerfyrddin fydd yn yr het am y rownd nesaf. ‘Dyw dylanwad fy man geni ddim yn ddigon cryf i mi ochri gyda Cei Conna y prynhawn yma! Caerfyrddin am y Gwpan! Mae Dilwyn yn ohebydd gyda BBC Radio (Cymru). Daw
o bryd i’w gilydd i Barc Waundew yn rhinwedd ei swydd. DIOLCHGAR I’R CYFRYNGAU – Alun Charles Roeddwn i’n ddiolchgar iawn i’r cyfryngau’r wythnos
hon! Gadewch i mi esbonio pam.
Digwyddwn fod oddi cartref oherwydd fy ngwaith ac, yn anffodus, roedd rhaid
colli’r gêm fawr yn erbyn Wrecsam! Rai blynyddoedd yn ôl, roedd gennyf docyn
tymor yn y Cae Ras a hynny ar adeg
pan oedd y Dreigiaid yn cyflawni gorchestion – mewn gêmau cynghrair a chwpan.
Siom o’r mwyaf felly oedd peidio â medru bod ar Barc Waundew i weld yr ornest
nos Fawrth. Ond, diolch byth, gallwn
gadw lan â’r digwyddiadau drwy’r
cyfryngau! Rhaid canmol y rhaglen FAW Premier Cup Live
ar BBC2 (Cymru) yn fawr hefyd. Rwy’n
credu bod Oliver Hindes yn gyflwynydd da a thîm effeithiol iawn yw’r
sylwebyddion ynghyd â’r pwnditiaid Ian Walsh, Dai Davies a Mark
Aizelwood. Cawsom weld
uchafbwyntiau’r gêm ar Barc Waundew yn ystod hanner amser y gêm rhwng
Casnewydd ac Abertawe ac yna uchafbwyntiau’r ail hanner ar derfyn y gêm
honno. A gyda llaw, da yw gweld yr
Elyrch yn cymryd y gystadleuaeth hon o ddifrif – diolch i arweiniad Colin
Addison a Peter Nicholas. Ar nosweithiau fel hyn, yn unigrwydd yr ystafell
mewn gwesty, pan mae’r corff mewn un lle a’r meddwl mewn lle arall, mae rhywun,
o bosib, yn gwir werthfawrogi gwasanaeth y cyfryngau ac, wrth gwrs, yn
sylweddoli cymaint yw eu grym a’u dylanwad! A wyddech chi fod 8.4 miliwn wedi gwylio Manceinion
Unedig yn chwarae yn erbyn Aston Villa ar Ddydd Sul, 6 Ionawr yn y gêm gwpan
ddramatig honno a enillodd y Cochion 3-2, a bod hynny’n uwch na’r nifer a
wyliodd y gêm derfynol yng Nghwpan y Gymdeithas Bêl-droed rhwng Lerpwl ac
Arsenal fis Mai diwethaf? Ac roedd
hyd yn oed mwy yn gwylio’r gêm rhwng Manceinion Unedig a Deportivo La Coruñda
yng Nghynghrair y Pencampwyr fis Hydref diwethaf! Dyna i chi rym a dylanwad! Ond efallai mai cyfraniad mwyaf y cyfryngau yw creu
diddordeb - troi cwpan a chynghrair a
thîm yn destun siarad yn y gwaith, mewn tafarn ac ar yr aelwyd. Gwyddai pobl y gwesty ble roeddwn i’n aros
yr wythnos hon fod Caerfyrddin a Chasnewydd yn herio’r mawrion ym Mhrif Gwpan
Cymdeithas Bêl-droed Cymru – diolch i’r cyfryngau. Ac, yn fy marn i, dyna sydd wedi bod ar goll yn y
Gynghrair Genedlaethol hyd yn hyn y tymor hwn. Ni fu’r Gynghrair yn ddigon o destun siarad ymhlith pobl! Ni fu bwrlwm! Ni fu digon o ddadlau! Ond diolch byth, mae cyfle I adfer y sefyllfa o hyn
ymlaen. Nid yw mewnbwn pêl-droed ar
raglen Y Clwb yn sylweddol iawn, mi wn, ond mae’n amhrisiadwy serch
hynny. Hir y pery! HELYNT
PARC NINIAN 15.01.02 – Llyr Hughes Griffiths
Caerdydd ar ôl yr helynt a
gafwyd ym Mharc Ninian yr wythnos diwethaf. Does dim gwadu bod taflu poteli,
rhedeg ar y cae a herio cefnogwyr y gwrthwynebwyr yn y fath fodd yn ymddygiad
cwbwl annerbyniol. Ar y llaw arall mae yna elfen
o’r wasg Brydeinig wedi fy nghorddi yr wythnos hon. Gyda phawb yn gweiddi am
i’r FA weithredu yn erbyn y barbariaid Cymreig, bach iawn o sylw a roddwyd
i’r hyn a ddigwyddodd ychydig oriau’n ddiweddarach. Fe welodd pob un ohonom
gefnogwyr Manchester United yn rhedeg ar y cae ym Mharc Villa. Hwliganiaid
oedd disgrifiad y wasg o’r Cymry tra mai dathlu afieithus oedd yr hyn a
wnaeth dilynwyr y pencampwyr. Yn yr un gêm fe redodd Alex Ferguson ar y cae i
ddathlu gôl. Ond wrth gwrs, mae’n iawn i Syr Alex adael ei sedd yn yr
eisteddle yn wahanol i gadeirydd arbennig y gallwn ei enwi. Yn hwyrach yn yr wythnos fe
ddaeth hi’n amlwg bod poteli wedi cael eu taflu i’r cae mewn gêmau eraill ond
heb yr un ymateb bonllefus gan y wasg. Dylai’r anghysonderau hyn beri gofid
inni I gyd. Efallai bod rhannau o’r wasg am fedyddio cefnogwyr Caerdydd fel
ciwed wallgof, ond mi ddylid cael mwy o gytbwysedd. Roedd disgrifiad David O’leary
o’r lle fel Istanbul (lle bu farw cefnogwr Leeds) yn or-ddweud llwyr, ond
roedd hyn yn fêl ar fysedd yr ysgrifenwyr penawdau. Cyn waethed oedd y
sefyllfa fel bod rhywun hyd yn oed yn teimlo bod y newyddiadurwyr Prydeinig
yn mwynhau cael ‘go’ ar yr anwariaid Cymreig. Does ond gobeithio y bydd
Cymdeithas Bêl-Droed Cymru’n dangos digon o asgwrn cefn i fynnu bod FA Lloegr
yn cosbi rhai o’r clybiau eraill a fu’n camfihafio. Byddai ymateb byrbwyll
sy’n gwneud esiampl o dîm ein prifddinas yn unig yn annheg iawn. ER EI FFAELEDDAU mae Sam yn
ddigon call i sylweddoli bod yn rhaid cael gwared ar yr elfen anystywallt os
yw ei glwb am dyfu i fod yn un o prif dimau’r Deyrnas Unedig. Bellach, yn
sgîl hyn oll, mae gan y clwb gyfle i fynd ati o ddifrif i gael gwared ar yr
hwliganiaid sydd wedi bod yn gymaint o broblem dros y blynyddoedd. Dim ond
wedyn y gall Caerdydd osod y sylfeini yn eu lle i fod yn glwb sy’n barod ar
gyfer yr Uwch-Gynghrair. BECHGYN BARGOD RANGERS 12.01.02 – Peter Hughes
Griffiths Tîm Bargoed Rangers yn ardal Dre-fach Felindre
(rhwng Castellnewydd Emlyn a Llandysul) oedd y tîm cyntaf i mi ei gefnogi ac
yna chwarae iddo, Unig uchelgais bechgyn yr ardal oedd cael gwisgo crys
glas a gwyn y tîm lleol, a bu’n dîm llwyddiannus iawn ers sefydlu’r clwb ym
1921, a braint i mi oedd bod yn aelod
o’r tîm arbennig hwnnw a enillodd dri chwpan Cynghrair Ceredigion a hynny
deirgwaith yn y pum a’r chwedegau – record na chafodd ei thorri hyd heddiw. Ond mae cysylltiad agos iawn rhwng llawer iawn o
fechgyn y Bargod Rangers â Chlwb Pêl-droed Caerfyrddin ar hyn o bryd gan fod
llawer iawn o’r cyn-chwaraewyr i’w gweld ar Barc Waun Dew yn gyson. Mae un o’r is-lywyddion, J Gwynfor Jones
yn eistedd yn syth y tu ôl i’r lle mae Tomi Morgan yn sefyll yn ystod y gêm
(ac yn clywed pob gair a ddaw o enau Tomi!!). Un o fois Bargod yw’r is-lywydd a’r cefnogwr brwd A T Bernard
Davies, ac un arall yw Aneurin Jones o Gwmffrwd sydd newydd symud yn ôl i’r
ardal ar ôl bod yn byw ac yn cefnogi Aberystwyth am flynyddoedd. Fe fu Aneurin yn chwarae yn y gôl y tu ôl
i mi am sawl tynor – un o’r golwyr gorau a welodd Bargod erioed. Daw John (Dai) Davies gyda chriw Llandysul
bob Sadwrn i Barc Waundew ac mae Andy (Bach) Davies a Hywel Morris yn
gefnogwyr cyson hefyd. A chwarae teg, mae cyn-chwaraewyr timau
Castellnewydd a Llandysul yn flaenllaw yn ein clwb ni hefyd – Gareth O Jones
ac Emlyn Schiavone, a John Evans (Cei Newydd) yn is-lywydd a Wyn Lewis Jones ac
Eddie Evans (Eddie Pencae), i enw dim ond un neu ddau. Diolch i nifer dda o fois eraill yr ardal hon sy’n
cefnogi tîm y Dre mor gyson. Yn wir, o’r bechgyn oedd yn chwarae yn fy amser i
dangosodd sawl un fod ei ddoniau oddi ar y cae’n llawn cystal. Yn y timau hynny yn y chwedegau roedd Roy
Evans (Roy Trewen), Prifathro presennol Coleg Prifysgol Bangor ac Ainsleigh
Davies (Ains Welsh Stores), Prifathro Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Eifion
Davies (Eif Bach – ac yntau dros ei chwe troedfedd) sy’n gweithio i Ymddiriedolaeth
Derwen, a’i frawd Dyfrig Davies, Ymgynghorydd gyda’r Awdurdod Addysg Lleol
a’i fab yntau Huw Davies – y golwr gorau a welais i’n chwarae dros dîm
Caerfyrddin, Roy James, cyn-brif Arolygwr Ysgolion Cymru, a Gareth Crompton,
cyn-Brif Feddyg y Swyddfa Gymreig. Yn wir, gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. John Davies (John Cwrt), cyn golwr
Caerdydd a Dinas Hull yw’r unig un o’r clwb a aeth yn chwaraewr proffesiynol.
Ym 1975 roedd e’n chwarae dros Bargod Rangers ac ym 1976 roedd e’n chwarae
i Gaerdydd. Dyddiau da oedd y dyddiau hynny. Cewch fwy o hanes y
clwb a’i chwaraewyr cyn diwedd y tymor! DYLAN IORWETH
26.12.01 -Y DERBY FAWR Dydw i ddim yn deall beth ydy’r holl ffwdan.
Caerfyrddin v Llanelli? Gêm fach. Pan
oeddwn i’n ifanc yn y Gogledd, roedd yna gêms go iawn yn digwydd ar ddydd San
Steffan. Weithiau, mi fyddech chi’n cael Lerpwl yn erbyn Everton neu, yn y
dyddiau pell yn ôl hynny, Man U yn erbyn Man City. Ambell dro, roedd
Caernarfon yn erbyn Bangor hyd yn oed. Ond bob Rhagfyr 26 heb fethu, roeddech
chi’n cael Caeathro v Waunfawr. Os nad ydych chi erioed wedi clywed am y ddau
bentre’, eich colled chi ydy hynny. Dyma’r pentrefi a fagodd bêl-droedwyr
enwog fel Aled Lodge, Shacyn, Mois Bach a Woody. Roedd gêmau dydd San Steffan
yn arbennig o gofiadwy, yn enwedig gan nad oedd y rhan fwya’ o’r chwaraewyr
yn cofio dim am na noswyl Nadolig na’r diwrnod mawr ei hun. Doedd neb yn penio’r bêl rhag ofn iddyn nhw wneud eu
hangofyrs yn waeth. Ac os oedd rhywun yn llwyddo i redeg fel Ryan Giggs i
lawr yr asgell ... heb sobri digon i redeg yn syth yr oedd o. A dweud y gwir, roedd ambell un yn gorfod
stopio bob hyn a hyn er mwyn tjecio beth oedd o wedi’i gael i’w fwyta yn
ginio Nadolig. Roedd y cyfan yn
gwneud i’r cae edrych fel petai’n diodde’ o’r frech goch. Aled Lodge oedd yn gosod y lefel o ran
ffasiwn. Roedd ganddo drowsus bach, mawr, fel petai, yn cyrraedd i lawr at ei
bengliniau, yn debyg i flwmer ei fam-gu. Ac roedd rhai’n amau mai ei fam-gu
oedd ynddyn nhw hefyd. Bachgen ysgol
oeddwn i ar y pryd ond roedd ambell un o’r chwaraewyr yn ddigon hen i fod yn
dad imi. Eu tactic arferol oedd taclo unrhyw un ifanc oedd yn dod yn ddigon
agos, jyst rhag ofn iddo gael y bêl o fewn y deng munud nesa’. Rhedeg ar ôl eu hieuenctid yr oedd y rhan fwya’
ohonyn nhw, yn fwy na rhedeg ar ôl y bêl - roedden nhw’n gwybod lle’r oedden
nhw i fod, ond roedd hynny wastad rhyw bum llath o’u blaenau. Bôn y clawdd
oedd y stafelloedd newid a phawb yn gadael eu dillad yn bentwr ar ochr y cae.
Dim byd o’i le ar hynny, os nad oedd ci yn digwydd pasio. Doedd yna ddim stand, chwaith - os nad
oedd hen ddyn yn digwydd stopio gyda’i zimmer - ac roedd y tyrfaoedd dipyn yn
brin. Doedd yna neb yn dod i weld, jyst rhag ofn y bydden nhw’n gorfod chwarae. Ar ôl y gêm yr oedd y digwyddiad mwya’
cyffrous - ym mar tafarn Caeathro. Roedd y tensiwn a’r cynnwrf yn anhygoel
wrth inni i gyd aros i weld a fyddai Keith Bach yn mynd i’w boced i brynu
rownd. Byddwn i wrth fy modd yn cael mynd yn ôl a chwarae
un gêm fach arall ... a chael bod yn fachgen deunaw oed gyda lot o wallt.
Byddwn i’n gwneud rings rownd Aled Lodge y tro nesa’, wedi’r cyfan, mae o
siŵr o fod ar ei bensiwn erbyn hyn.
Ond, i fi, dyna ydy pêl-droed. Nid gwylio chwaraewyr sy’n cael eu talu
fwy am un gêm nag y mae’r rhan fwya’ ohonon ni’n ei gael mewn blwyddyn. Ac er
y bydd y safon yn well, gobeithio y bydd rhywfaint o’r ysbryd yna ar y
Waundew heddiw. ARWYN THOMAS 22.12.01
Bydd Ffrainc a Senegal yn chwarae gêm agoriadol Cwpan y Byd 2002 yn Seoul
ar Fai 31. Mis yn ddiweddarach fe fydd y gêm derfynol ar ddiwrnod olaf Mehefin. Gêm rhif 64 y
gystadleuaeth. Rhwng y gêm gyntaf a’r olaf bydd llu o ddigwyddiadau cyffrous,
goliau bendigedig, camgymeriadau erchyll a record neu ddwy yn cael ei thorri.
Bydd ambell i seren wedi disgleirio ,un arall wedi pylu ac ambell un wedi
syrthio’n llwyr. Fel tamaid i aros pryd dyma i chi ychydig o ystadegau a
hanesion rhai o sêr y gorffennol. Un o’r penderfyniadau rheolaethol mwyaf dadleuol oedd
penderfyniad Ademar Pimenta hyfforddwr
Brasil yn 1938. Roedd Leonidas, un o sêr y tîm, wedi sgorio 6 gôl mewn dwy
rownd. Gorffwyswyd ef yn y rownd gyn – derfynol yn erbyn yr Eidal er mwyn ei
gadw’n ffres ar gyfer y gêm derfynol. Collodd Brasil ond fe sgoriodd Leonidas
2 gôl arall yn y gêm am y trydydd safle…… Laszio Kiss o Hwngari yw’r unig
eilydd i sgorio tair gôl mewn gêm. Daeth ar y cae yn erbyn El Salvador yn
1982 pan oedd y sgôr eisoes yn 5-1. Y sgôr terfynol oedd 10‑1 - y sgôr mwyaf yn y rowndiau terfynol……Pan
gollodd Peru o gôl i ddim yn erbyn Gwlad Pwyl yn 1978. Cafodd Quiroga eiugôl‑geidwad
gerdyn melyn am drosedd yn hanner y gwrthwynebwyr!!…Roedd y gêm agoriadol ym
Mecsico yn 1970 yn nodweddiadol am mai dyma’r tro cyntaf i dimau fedru
eilyddio a chardiau melyn a choch gael eu defnyddio. Y chwaraewr ieuengaf i chwarae yn y rowndiau terfynol yw
Norman Whiteside o Ogledd yr Iwerddon. Roedd yn 17 mlwydd oes a 42 diwrnod.
Yr hynaf yw Roger Milla o Cameroon a oedd yn 42 oed a 39 diwrnod pan
chwaraeodd yn erbyn Rwsia yn 1994. Gan iddo sgorio yn yr un gêm ef yn ogystal
yw’r sgoriwr gôl hynaf. Breuddwyd pob chwaraewr yw bod yn gapten ar ei wlad. Nid
oes yr un chwaraewr wedi ennill Cwpan y Byd ddwywaith fel capten. Yr agosaf
yw Diego Maradona pan enillodd yr Ariannin yn 1986 a dod yn ail yn 1990, a Dunga o Frasil a oedd yn gapten yn nhîm
buddugol 1990 ond a gollodd yn y gêm derfynol yn 1994. Karl Heinz Rummenigge
yw’r unig gapten i golli dwy gêm derfynol yn 1982 a 1986. Danfonwyd Jose Batista o’r maes ar ôl 56 eiliad yn unig
yn erbyn yr Alban yn 1986 yn
dilyn tacl erchyll ar Gordon
Strachan. Er chwarae yn erbyn 10 dyn ni fedrodd yr Alban sgorio ac aeth
Uruguay drwodd i’r rownd nesaf ….Yn y rownd gyn-derfynol rhwng yr Ariannin
a’r Eidal yn 1990. Ychwanegodd y dyfarnwr Michel Vautrot 8 munud o amser
ychwanegol ar ddiwedd yr hanner cyntaf o amser ychwanegol. Cyfaddefodd ar ôl
y gêm iddo anghofio’n llwyr am yr amser…Walter Zenga gôl‑geidwad yr
Eidal sy’n dal y record am y cyfnod hiraf heb ildio gôl. Yn rowndiau terfynol
Cwpan Y Byd 1990 chwaraeodd am 517 munud (bron i 6 gêm) cyn i Claudio
Caniggia sgorio i’r Ariannin yn y rownd gyn-derfynol. Collodd yr Eidal i
giciau o’r smotyn. Tybed pwy fydd yn hawlio’r penawdau ym Mehefin 2002? DWY OCHR I’R GEINIOG – Alun Charles Rwyf wedi treulio’r wythnos hon i gyd yn yr hen Went. Yn ystod y rhan gyntaf, bûm yng
nghyffiniau tref farchnad hyfryd Y Fenni.
Ac er mwyn cyrraedd fy nghanolfan, roedd rhaid mynd heibio i stadiwm
clwb pêl-droed y dre. Mae enw’r tîm,
‘Abergavenny Thursdays’, bob amser wedi apelio ataf. Mae rhyw swyn arbennig yn perthyn iddo. Sefydlwyd y clwb ym 1900 ac mae’n debyg yr arferai siopwyr
a’r bechgyn a gyflogwyd ganddynt drefnu gêmau ar eu prynhawn rhydd, sef
prynhawn dydd Iau, wrth gwrs. Roedd
pethau ar i fyny ddiwedd yr Ail Ryfel Byd pan brynodd y clwb gae’r ‘Penypound’ a chodi eisteddle newydd sbon a
gwella’r cyfleusterau. Daeth Tystysgrif Clod i’w rhan am eu gwaith
rhagorol gan neb llai na Chymdeithas Bêl-droed Cymru! Bu sawl pinacl yn hanes y ‘Thursdays’ dros y blynyddoedd ac roeddent yn un o
aelodau cyntaf y Gynghrair Genedlaethol ym 1991-92. Bu gan y clwb
gyfleusterau ac adnoddau arbennig ar un tro.
Ond y tristwch o weld y lle erbyn hyn! Yr eisteddle’n prysur droi’n
adfail a golwg llwm dros ben ar y stadiwm yn gyffredinol. A does fawr o raen
ar y tîm ychwaith – ‘mieri lle bu
mawredd’! Yn ystod ail ran yr wythnos roeddwn yng nghyffiniau
Cwmbrân. Ac wrth gwrs, roedd rhaid
mynd i weld stadiwm newydd y clwb
pêl-droed. Bydd Y Brain yn gobeithio dychwelyd i’w cartref ‘ar ei
newydd wedd’ yn Ionawr 2001. Mae’r gwaith datblygu’n costio oddeutu £5 miliwn
ac wedi’u rhwystro rhag chwarae ar eu tomen eu hunain am dros flwyddyn. Er gwaethaf y canlyniad trychinebus yn
Hwlffordd yn ystod yr wythnos, mae cyfle da ganddynt i gyrraedd Ewrop am y
chweched tro ddiwedd y tymor hwn. Mae’r hyfforddwr Roger Gibbins, cyn-chwaraewr Spurs yn
llawn canmoliaeth am y ffordd y mae’r tîm wedi chwarae eu gêmau cartref mewn
tri lle gwahanol yn ystod y cyfnod hwn.
Serch hynny, daethant o fewn tri phwynt i ennill y bencampwriaeth y
llynedd. Ac ar ddiwedd y tymor hwn, mae’n debyg y bydd gan Cwmbran fantais
fawr dros y gweddill ohonom - ar
bapur, beth bynnag - gan y byddant yn chwarae 10 o’u 14 gêm olaf gartref. Mae’r sefyllfa hon yng Ngwent yn dangos mor fregus yw byd
y bêl gron. ‘Y Fenni’ ddoe… ‘Cwmbran’
heddiw. Mor fuan y gall y rhod droi.
A does dim angen meddwl yn galed cyn dod o hyd i sefyllfaoedd tebyg
mewn rhannau eraill o Gymru. Oes, mae
dwy ochr i’r geiniog a’r gamp bob amser ydy glanio ac aros ar yr ochr iawn! PETER HUGHES GRIFFITHS RHAID CANMOL CPD TREF CAERFYRDDIN am fod mor barod i roi
cyfle i fechgyn lleol chwarae yn y tîm cyntaf yn y Gynghrair
Genedlaethol. Mae gan y Clwb bellach
bolisi clir gyda thimau o naw oed hyd at ddeunaw oed a hyfforddwyr arnynt. Gwelais yr Ail Dîm yn chwarae’n ddiweddar yn erbyn Lido
Afan ar Barc Waun Dew, gyda nifer dda o ieuenctid yn dangos tipyn o
frwdfrydedd. Ond, mae yna sawl chwaraewr eto, rwy’n siðr, yn yr hen Sir Dyfed
sy’n ddigon da i chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol, ac mae angen cael
gafael arnyn nhw. SGOWTIAID Peth da fyddai i Glwb Caerfyrddin gael nifer o sgowtiaid i
fynd i chwilio am dalentau addawol eraill ar hyd a lled Cynghreiriau Sir
Benfro, Ceredigion a Chaerfyrddin.
O’r cynghreiriau hyn y daeth Rob Fitzgerald, Wyn Thomas, Dean
Rossiter, Wayne Jones, Siôn Meredith, Luke Fayers, Tim Hicks a Jody Thomas,
sef hanner y garfan bresennol. Rwy’n
siðr fod ‘na eraill o gwmpas a allai chwarae i safon y Gynghrair Genedlaethol
a’r tu hwnt i hynny. Profodd Mark
Delaney (Aston Villa), Matthew Jones (Caerlþr) a Simon Davies (Spurs) fod
hynny’n gwbl bosibl. Mae talent yn ein hysgolion hefyd a rhaid cadw llygad ar y
rhai o Ddyfed sy’n ennill eu capiau i dîm cenedlaethol yr ysgolion – dyna
oedd hanes Rob Fitzgerald, Wyn Thomas ac, yn fwy diweddar, Jody Thomas. Gwn fod Tomi Morgan â’i glustiau a’i
lygaid ar agor yn chwilio am dalentau newydd drwy’r amser, ac mae hyn yn
bolisi iach iawn, ond, mae dyletswydd arnom ninnau i fynd i weld rhagor o
gêmau lleol yn y gorllewin ‘ma. Beth am sefydlu tîm o sgowtiaid o fewn y Clwb a
chreu rhwydwaith drwy Ddyfed i gribo’r clybiau a chanfod Mark Delaney
arall? Gallai’r sgowtiaid ddod ynghyd
i gael hyfforddiant a chwrdd yn rheolaidd i drafod chwaraewyr. Byddai’r prif sgowt yn adrodd yn ôl i’r
rheolwr a gallai arbenigwyr ddod i siarad â nhw a datblygu’r ddawn o sgowtio. IE, CHWILIO AM FWY O DALENTAU LLEOL yw ein
cenhadaeth bêl-droed yng Nghaerfyrddin a sefydlu grðp o sgowtiaid yw’r cam
nesaf. Mae’n siðr fod un neu ddwy o
sêr y dyfodol ymhlith y 400 o fechgyn oed cynradd sy’n chwarae i dimau yn y
Ganolfan Chwaraeon bob bore Sadwrn yn Nhre-Ioan. Nawr yw’r amser i gadw llygad arnyn nhw! CARDIAU COCH A MELYN – Alun Charles DW I BOB AMSER yn
edmygu pobl sy’n gallu meddwl am bethau newydd, yn enwedig os ydyn nhw’n troi
allan i fod yn bethau defnyddiol. Gan
amlaf, pethau rhyfeddol o syml ydy’r rhain, ond pethau dylanwadol iawn serch
hynny. Ydych chi’n cofio
Cwpan y Byd 1966 pan chwaraeodd Lloegr yn erbyn yr Ariannin yn y gêm
gogynderfynol yn Wembley? Am awr yn y gêm honno, nid oedd Lloegr yn gallu
torri trwy amddiffyn yr Ariannin. Yna, pan oedd chwaraewyr yr Ariannin yn
cylchynu’r reffarî o’r Almaen, Rudolf Kreitlein, i anghytuno â phenderfyniad
arall, anfonwyd eu capten, Antonio Rattin, o’r cae. Am rai munudau, gwrthododd Rattin fynd, a hyd yn oed ar ôl iddo
ildio, parhaodd i ddadlau o flaen y bocs brenhinol. Roedd pethau’n edrych yn hyll. Cadeirydd Pwyllgor
Reffarîs FIFA ar y pryd oedd Ken Aston. Fe oedd yn gyfrifol am y
reffarϊo yn y twrnamaint hwn.
Aeth ar y cae i weld beth allai’i wneud. Llwyddodd i berswadio Rattin nad oedd pwynt parhau i ddadlau a
thrwy hynny niweidio awdurdodau pêl-droed yr Ariannin. Enillodd Lloegr y gêm 1-0. Roedd y gêm hefyd
yn arwyddocaol am reswm arall. Roedd
y papurau newydd wedi adrodd bod Jack a Bobby Charlton wedi cael eu
bwcio. Ond ni chafwyd arwydd
cyhoeddus o hyn gan y reffarî a gofynnodd rheolwr Lloegr, Syr Alf Ramsey, i
FIFA am eglurhad. Ceisiodd Ken Aston feddwl sut y gallai wneud y
sefyllfa’n gliriach. Ac wrth iddo
yrru i lawr Stryd Fawr Kensington yn Llundain, troiodd y goleuadau traffig yn
goch. Dywedodd wrtho’i hunan :
‘Melyn, cymer bwyll; coch, stopia, bant â ti!’. Cyflwynwyd cardiau
coch a melyn i’r gêm yng ngêmau terfynol Cwpan y Byd ym 1970! Brodor o Colchester
oedd Ken Aston. Fe’i ganed ym 1915.
Bu’n athro yn Ysgol Gynradd Newbury Park yn Swydd Essex am y rhan fwyaf o’i
oes. Daeth yn reffarî ym 1935. Fe oedd y reffari yn y gêm hynod honno yng
Nghwpan y Byd rhwng Chile a’r Eidal ym 1962 a adnabyddir fel ‘Brwydr
Santiago’. Datblygodd Aston i fod yn
gryn awdurdod ar reolau’r gêm. Bu
farw ar 23 Hydref eleni yn 86 oed. NAWRTE, FAINT
OHONOCH CHI sy’n darllen hwn sy’n gyfarwydd ag enw Ken Aston? Dim llawer, efallai. A llai byth o’r to
iau. Ond rydyn ni i gyd yn gyfarwydd
â system y cardiau coch a melyn. A thrwy’r system honno y bydd cof am Ken
Aston tra bo’r gêm yn bod. Dyma un o ddynion y pethau syml ond defnyddiol ac
effeithiol. Ac ar ben y cwbl, un a feddyliodd am welliant mawr yn y byd
pêl-droed a hynny yn enw tegwch. MAE’R PWYSAU’N
ANFERTH - Alun Charles OS YDY FY
MATHEMATEG I’N IAWN, mae 15 o reolwyr o’r Brif Gynghrair a Chynghrair y
Nationwide wedi colli’u swyddi’n barod yn ystod deng wythnos gyntaf y tymor
hwn! Dangoswyd y drws yr wythnos hon i ddau sydd â chysylltiadau â Chymru -
Peter Shreeves o Sheffield Wednesday, a fu’n hyfforddwr gyda thîm Cymru pan
oedd Terry Yorath wrth y llyw, a Trevor Francis o Ddinas Birmingham a ddaeth
o hyd i wraig yn Llanelli! Ond mae’r
swydd hon fel rhyw gyffur a dymuniad y rhan fwyaf o reolwyr a gafodd gic yn
eu pen-ôl yw dychwelyd mor fuan â phosibl, beth bynnag fu’r helynt neu’r
miri. Dyna i chi, Peter
Taylor. Un mis ar ddeg yn ôl roedd Taylor yn rheoli Dinas Caerlyr a oedd yn y
trydydd safle yn y Brif Gynghrair, a Lloegr. Ar ddydd Mercher, 18 Hydref, 17
niwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo gan Gaerlyr, daeth yn rheolwr Brighton and
Hove Albion, tîm yn ail adran y Gynghrair Nationwide. Fel mae pethau’n newid! Ar 15 Tachwedd y
llynedd, ar ôl i Kevin Keegan ymddiswyddo a chyn penodi Sven-Göran
Eriksson, roedd Taylor wrth y llyw ar
gyfer gêm Lloegr yn erbyn yr Eidal yn y Stadio Delle Alpi yn Turin. Dewisodd
dîm yn llawn o chwaraewyr ifanc addawol a gwnaeth David Beckham yn
gapten! Mewn llai na blwyddyn, roedd
yn arwyddo cytundeb tair blynedd mewn lle digon di-nod mewn cymhariaeth -
Stadiwm Withdean, Brighton. Mae’r pwysau’n
anferth - hyd yn oed ar y rheolwyr mwyaf disglair. A ni’r cefnogwyr sydd ar
fai yn aml. Meddyliwch am y ddeuoliaeth. Mae cefnogwyr Manceinion Unedig wedi
rhoi’u bryd ar gyrraedd gêm derfynol Cwpan Ewrop ym Mharc Hamden ym Mai er
mwyn ffarwelio â Syr Alex Ferguson mewn steil. Ond roedd rhai o’r un
cefnogwyr yn barod am ei waed Nos Fercher diwethaf oherwydd methiant yr
amddiffynfa pan gollodd y Cochion yn erbyn Deportivo La Coruňa mewn gêm
wych yn Old Trafford yng Nghynghrair y Pencampwyr. Mae’n ymddangos bod y chwaraewyr yn dal i geisio dod i delerau
â system 4-2-3-1 newydd Syr Alex! Mae’r pwysau’n
dweud yn bur ddifrifol ar rai.
Meddyliwch am Lerpwl. Dyna i chi salwch Gerard Houllier, rheolwr
presennol Lerpwl. Beth amser yn ôl,
bu raid i Graeme Souness gael llawdriniaeth ar ei galon pan oedd ar Lanau
Merswy. A chofiwn mai ymddiswyddo wnaeth Kenny Dalglish oherwydd y pwysau
oedd arno. Ac o sôn am Albanwr, pwy
all anghofio marwolaeth Jock Stein, rheolwr yr Alban ar ôl gêm ym Mharc
Ninian ym 1985. Ac nid yw rheolwyr
y Gynghrair Genedlaethol heb eu gofidiau ychwaith. Cofiwch beth sydd wedi digwydd i reolwyr Port Talbot a Rhayader
y tymor hwn yn barod. Mae’r pwysau’n mynd yn drymach. Fel y dywed Tomi yn ei nodiadau heddiw,
mae chwarae rhan - ar unrhyw lefel - mewn clwb yn y Gynghrair hon yn golygu
llawer iawn o ymroddiad. Does dim rhyfedd
bod llawer o fynd a dod ymhlith rheolwyr y dyddiau hyn. Beth bynnag fydd hynt a helynt ein gêm,
nid yw hynny’n debygol o newid. LLYR HUGHES GRIFFITHS ‘N ôl ar ddechrau’r tymor diwethaf mi wnes i
ddarogan yn fy erthygl i’r rhaglen hon mai Iwcraen fyddai’n ennill ein grwp
rhagbrofol ar gyfer cwpan y byd, gyda Phwyl yn ail. Mi wnes i hefyd ddarogan mai’r ddwy gêm yn erbyn Pwyl oedd y
pwysicaf i Gymru gan fod disgwyl inni gymryd pwyntiau llawn oddi wrth Armania
a Belarws a dal ein tir yn erbyn Norwy.
Wythnos wedi hynny, a ninnau wedi colli oddi cartref i Belarws, roedd
fy nghynlluniau’n ffradach! Naw gêm yn ddiweddarach ac fe ddaeth ein
buddugoliaeth gyntaf. Roedd hi’n
fuddugoliaeth hir-ddisgwyliedig, a dweud y lleiaf, gyda chenedl gyfan yn rhoi
ebychiad o ryddhad nad ein cenhedlaeth ni oedd yn gyfrifol am y tîm
cenedlaethol gwaethaf yn hanes y bêl gron yng Nghymru. Byddai’r disgrifiad hwnnw wedi bod braidd yn annheg
petai pethau wedi bod yn wahanol yn erbyn Belarws yr wythnos ddiwethaf. Diau y byddai ambell i ohebydd wedi cael
modd i fyw yn cymharu Cymru â thimau gwaethaf y byd gan ein hatgoffa bob yn
ail frawddeg nad oedd Cymru wedi ennill ers tair gêm ar ddeg. Ar y llaw arall, byddai eraill, ychydig yn
fwy caredig efallai, yn ein hatgoffa mai dim ond dwy gêm yr oedd Cymru wedi’u
colli mewn naw. Sut bynnag rych chi am ddehongli’r canlyniadau dros
y flwyddyn ddiwethaf does dim amheuaeth bod y perfformiadau wedi gwella. Mae Mark Hughes a’i dîm wedi cyflawni eu
nod cyntaf, sef gwneud Cymru’n dîm anodd i’w curo. Y trueni yw na lwyddwyd i fynd un cam ymhellach a dechrau
ennill ambell gêm – yn enwedig mewn grwp lle’r oedd hi’n bosib cyflawni
rhywbeth. Dydw i erioed yn cofio Cymru’n llwyddo i osgoi’r
timau mawr yn y rowndiau rhagbrofol o’r blaen. Ac er i’r grwp fod yn llai na
deniadol oherwydd hynny mae’n rhaid cyfaddef imi gredu nad oedd hi’n amhosib
i Gymru allu cymryd pwyntiau o bob un o’u gêmau’r tro hwn. Mae llygaid pawb nawr yn troi at ddiwedd Ionawr pan
fydd yr enwau’n dod allan o’r het ar
gyfer rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop yn 2004. Mae’n debyg y bydd Cymru ymhlith y detholion
isaf unwaith eto. Bydd hynny’n
sicrhau bod o leiaf tri thîm ‘gwell’ yn yr un grwp. A phwy a wyr gyda’r Iseldiroedd wedi methu cyrraedd rowndiau
terfynol Cwpan y Byd y gallan nhw fod yn drydydd o’r rheiny. Gan fod fy sgiliau darogan wedi cael eu profi’n
gwbl anghywir y tro diwetha, does ond gobeithio y bydda i’n anghywir gyda’r
daroganau canlynol hefyd. Fe allwch
chi fy ngalw i’n sinig ond rwy’n ofni y byddwn i gyd yn bwcio tocynnau ar
gyfer tripiau i’r Eidal, yr Almaen a’r Iseldiroedd ar gyfer rowndiau
rhabrofol 2004! Croeso’n ôl i Llyr. Diolch yn fawr iawn am dy gyfraniad – y cyntaf o lawer y tymor
hwn! UN O’R
‘MAWRION’! - Alun Charles 9.10.01 NID YN AML IAWN y daw’r cyfle i groesawu un o’r ‘mawrion’
i Barc Waundew. Ond yn sicr, mae
Neville Southall, sy’n chwarae rhwng y pyst arbed penaltis mewn garddwest ond,
y tro hwn, gobeithio, cawn ei weld mewn gêm go iawn! Yn ei lyfr 100
great British Footballers mae Trevor Brooking yn ystyried Southall yn un
o’r golgeidwaid gorau yn y cyfnod diweddar.
Ac mae’n mynd mor bell â dweud mai presenoldeb Southall oedd un o’r
prif resymau yr enillodd Everton bencampwriaeth yr Adran Gyntaf ym 1985 ac
eto yn 1987. Yn enedigol o Landudno, dechreuodd ar ei yrfa
broffesiynol gyda Bury (a fu yma ym mis Awst) ar ôl ymuno â nhw o Winsford,
clwb yng Nghynghrair Swydd Caer, ym 1980.
Byr fu ei arhosiad yn Bury, un tymor yn wir, cyn i Everton ei fachu.
Fe oedd y chwaraewr cyntaf a arwyddodd Howard Kendall. Roedd yn 21 ar y pryd, sy’n gymharol hen i
bêl-droediwr. Aeth peth amser heibio cyn iddo ennill ei le yn nhîm cyntaf
Everton. Ond buan iawn y gwnaeth ei
farc ar ôl cymryd drosodd oddi wrth Jim Arnold! Roedd ganddo ran allweddol yn llwyddiant Everton wrth iddyn nhw
ennill amlygrwydd ar ôl bod gymaint yng nghysgod Lerpwl. Cafodd Brooking gyfle i weld Southall sawl tro yn
ystod y blynyddoedd yr enillodd Everton y bencampwriaeth ym 1985 a 1987. Yn
aml iawn gwnaeth Southall arbediadau a fu’n drobwynt mewn gêmau allweddol.
Roedd ei allu i ragweld yn arbennig. Hefyd, ei amseru a’i ddawn i arbed
ciciau, ynghyd â’i agwedd cadarnhaol a phenderfynol a’i ddewrder, yn enwedig
wrth fynd am y croesiadau isel. Roedd
yn gawr o ddyn nad oedd yn ofni
cymryd cyfrifoldeb yn yr amddiffynfa.
Does dim rhyfedd iddo gael ei ddewis yn Chwaraewr Pêl-droed y Flwyddyn ym 1985 ac ennill ei gap cyntaf o
lawer ym 1982. Ac wrth gwrs, bu’n
graig o gadernid yn y gôl i Gymru dros flynyddoedd lawer. Yn 14 oed, ym Medi 1973, galwyd ar Southall i chwarae yn y gôl dros Llandudno Swifts yn
erbyn Rhos Aelwyd, gan ei wneud yn un o’r chwaraewyr ieuangaf i ymddangos yn
y Gynghrair Gymreig yn y Gogledd. Ac
y mae Llandudno bob amser wedi bod yn bwysig i Neville. I’r fan hon y
mae’n mynnu dychwelyd ar ôl pob gêm, bron yn ddiymdroi. YN UN O’R TALENTAU UNIGOL MAWR yn nhîm Cymru yn ei gyfnod,
fel Ian Rush, Mark Hughes a Kevin Ratcliffe, mae’n drueni na chafodd Neville
gyfle i ddangos ei fedrau ar lwyfannau mawrion Cwpan y Byd a
Phencampwriaethau Ewrop. Bu hon yn
golled nid yn unig i Neville, ond hefyd i ddilynwyr pêl-droed ym mhob cyfandir. BILL SHANKLY - Alun Charles 02.10.01 Rwyf bob amser wedi edmygu Bill Shankly, cyn-reolwr
Lerpwl. Roedd ei ddawn i drin geiriau
a’i ffraethineb yn bethau i’w ryfeddu!.
Cofiaf yn dda adeg ei farw. Fel mae amser yn hedfan – yn union ugain
mlynedd yn ôl i ddydd Sadwrn diwethaf y digwyddodd hynny. Roeddwn yn Anfield,
gyda Rhodri’r mab, ar y Sadwrn ar ôl iddo farw. Abertawe oedd yr
ytmwelwyr. Fyddwn ni ddim yn anghofio
gweld John Toshack, rheolwr yr Elyrch, yn tynnu top ei dracwisg o flaen y
dyrfa - ac oddi tano roedd crys Lerpwl! Dyna ffordd go arbennig o dalu
teyrnged i’w hen fentor! Diddorol oedd darllen dros y Sul am lyfr newydd
sydd wedi ymddangos am Shankly, sef The
Essential Shankly : Revealing the Kop legend who launched a thousand quips
gan John Keith (Robson Books : £8.99). Yn sicr, dyma lyfr y mae’n werth ei
ddarllen. Mae’n ymddangos mai un o’r geiriau mwyaf atgas yn y
geiriadur gan Shankly oedd ‘ymddeol’. Serch hynny, dyma beth a wnaeth, yn
annisgwyl iawn, ar 12 Gorffennaf 1974 ar ôl 15 mlynedd yn rheoli Lerpwl ac
yntau’n 60 oed. Dim ond deufis yn
gynharach roedd Lerpwl wedi ennill Cwpan y Gymdeithas Bêl-droed. Mae’n debyg mai er mwyn treulio mwy o amser â’i
deulu y penderfynodd Shankly ymddeol. Roedd y tensiwn a’r straen o reoli un o
brif glybiau’r byd wedi dechrau dweud ar ei wraig, Nessie. Teimlai ei fod wedi anwybyddu’i deulu’n
ormodol. Ond buan y gwelodd Shankly mai camgymeriad oedd
ymddeol a doedd e ddim yn gallu ymdopi â’r peth. O gwbl. Bu’n mynd am gyfnod i faes hyfforddi Lerpwl
ym Melwood ond achosai hyn anawsterau i’w olynydd, Bob Paisley. Treuliodd amser hefyd yn Bellfield, maes
hyfforddi Everton. Gwnaeth beth
gwaith elusennol a bu’n cynghori John King, rheolwr Tranmere, a John Toshack,
rheolwr Abertawe. Ar y cyfan, fodd bynnag,
ychydig iawn o gyfle a gafodd Shankly i ddefnyddio’i wybodaeth a’i brofiad
eang. Ac i roi halen ar y friw, fel
petai, aeth Lerpwl ymlaen i fwynhau mwy o lwyddiant yn nyddiau Paisley nag yn
nyddiau Shankly! Golygai Anfield bopeth i Shankly. Meddai mewn cyfweliad teledu ychydig cyn
ei farw, ‘Hoffwn gael fy nghladdu
yno. Fe fyddaf yn cael fy nghladdu yno ‘mewn ysbryd’. Anfield oedd y peth mwyaf a ddigwyddodd i
mi erioed’. Ac yn rhyfedd iawn, os ewch i Anfield, rydych yn siðr o weld y dyn ei hunan
oherwydd mae yno gofgolofn iddo.
Felly, mae’i ‘ysbryd’ yno o hyd DYLAN EBENEZAR 22.09.01 DYCHMYGWCH DDARGANFOD HEN BOTEL LYCHLYD. Dychmygwch wedyn
rwbio’r llwch o’r gwydr, a dychmygwch (os gallwch chi) fod dewin o’r Dwyrain
Canol - rhyw frawd i Ali-Baba - yn ymddangos mewn cwmwl o fwg, a hwnnw’n
ddewin diolchgar sy’n rhoi un dymuniad i chi. Beth fydde’r dewis? Hir oes? Cyfoeth? Cariad? Noddwr i Gynghrair Cymru? Ar ôl meddwl yn ddwys am hyn, ac ar ôl di-ystyru’r Ferrari a
Britney Spears doedd dim ond un dewis. Gweld Cymru’n cyrraedd Cwpan y Byd. Mae llawer yn cofio cewri 1958, ond mae’n anodd credu bod
cefnogwyr y cyfnod wedi gwerthfawrogi’n llwyr yr haf hyfryd hwnnw. Pwy fydde
wedi dychmygu ar y pryd mai John Charles a’i gyfeillion fydde’r unig dîm o
Gymru i gyrraedd prif lwyfan y byd pêl-droed. Ma’r gêm yn anghenfil gwahanol
iawn erbyn hyn - mae pðdl y pumdegau yn fwystfil yn y milflwydd ac mae’r
freuddwyd o gyrraedd Cwpan y Byd yn…wel, breuddwyd. Mae angen gwyrth, neu
frawd Ali-Baba o’r botel. Mae llawer o wybodusion wedi ceisio deall a dadansoddi
problemau tîm cenedlaethol Cymru. Efalle y dylen ni dderbyn ein bod ni ddim
digon da - derbyn ein lle naill ochr i Venezuela a Kenya yn rhestr detholion
FIFA. Gwlad fach yw Cymru wedi’r cwbwl, does dim digon o chwaraewyr o safon.
Ond dangosodd tîm Terry Yorath ar ddechrau’r 90au ein bod ni’n ddigon da.
Gyda’r ysbryd a’r agwedd gywir gallwn gystadlu a hyd yn oed guro goreuon
Ewrop, neu hyd yn oed oreuon y byd. Nawr fe ddylen ni rybuddio chi fan hyn, rwy’n mynd i regi. Gall y geiriau nesaf
achosi salwch. Dyma ni…Paul Bodin!!! Pwy a ðyr beth fydde wedi digwydd tase
FE wedi sgorio’r gic o’r smotyn yn erbyn Rwmania. Does dim amheuaeth bod y
gêm yn drobwynt i Gymru-Rodd y tîm pêl-droed ar drothwy Cwpan y Byd ac ar
drothwy oes aur, oes a fydde wedi efelychu llwyddiant y tîm rygbi yn y 70au.
Bydde JPR a Barry John yn ddim i gymharu ag Eric Young a Barry Horne! Yr un hen stori yw hi o hyd wrth i dîm Marc Hughes
straffaglu drwy grðp rhagbrofol sydd unwaith eto’n ormod o brawf. Ond
ynghanol yr holl esgusodion rodd na un yn disgleirio. Chwaraewr gorau Cymru
yn ddiweddar yw Marc Delaney. Mae’n anodd credu bod yr amddiffynwr a welwyd
yn carlamu lawr yr asgell ar Barc Waun Dew bellach yn herio mawrion y byd
pêl-droed. Ma’r ffaith bod y Gynghrair Genedlaethol yn cael ei
hesgeuluso a’i hanwybyddu yn enghraifft o bopeth sy’n anghywir ym mhêl-droed
Cymru. Dim Mark Delaney yw’r unig chwaraewr o’r Gynghrair sydd wedi cymryd y
cam i’r lefel uwch - ond dyle llwyddiant Delaney fod yn ysbrydoliaeth i
chwaraewyr o Gaernarfon i Gwmbrân.
Dyle fe hefyd fod yn ateb pendant i gau cegau rheiny sy’n amau gwerth
y Gynghrair Genedlaethol. A CHYN I CHI OFYN, dwi ddim yn mynd i sôn am ‘GÔL!’. Galle
ni siarad am oriau a llenwi tudalennau - ond digon yw dweud nad pawb yn y BBC
sy’n credu bod y byd yn hirgrwn. Mae
pawb call yn gwybod bod y byd yn grwn. |
O
Gwmpas Waundew Tymor 2000-2001
O
Gwmpas Waundew Tymor 1999-2000